"Mae Penaethiaid y Tîm yng Nghymru wedi cydweithio â Places for Growth yn Swyddfa'r Cabinet, Sgiliau’r Llywodraeth, a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i lansio cyfle dysgu gwych i Wasanaeth Sifil y DU.
Mae Gweision Sifil ledled y DU bellach yn gallu dysgu Cymraeg am ddim drwy wefan Dysgu’r Gwasanaeth Sifil.
Mae astudiaethau’n dangos bod dysgu iaith newydd yn gallu bod o fudd mawr. Mae’n gyfle i drochi eich hun mewn diwylliant gwahanol, gan greu cysylltiadau gwerth chweil gyda’ch cydweithwyr. Mae hefyd yn gyfle i ymarfer eich sgiliau newydd gartref ac yn eich cymuned.
Mae’r broses o ddysgu iaith newydd yn gallu bod yn brofiad arbennig. Mae’n gallu rhoi hwb i’ch hyder, a gwella eich sgiliau cyfathrebu."