Adeiladu ar Lwyddiant Cynllun Cymraeg Gwaith

Ers 2018, mae dros 2,000 o gyflogwyr a 30,000 o weithwyr wedi manteisio ar ‘Cymraeg Gwaith’, cynllun i gryfhau sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd sy’n cael ei gynnig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae sefydliadau blaenllaw fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ac Undeb Rygbi Cymru, yn ogystal ag Awdurdodau Lleol a Lluoedd Heddlu Cymru ymhlith y rheiny sydd wedi camu ymlaen i gefnogi a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, gan gydweithio â’r Ganolfan Genedlaethol.
Mae’r Ganolfan yn cynnig ystod eang o wasanaethau sy’n seiliedig ar ei harbenigedd dysgu a chaffael iaith. Mae’r gwasanaethau hynny yn cynnwys hyfforddiant Dysgu Cymraeg dan arweiniad tiwtor, modiwlau hunan-astudio ar-lein, cyrsiau Codi Hyder a Defnyddio dwys a gweithdai ymwybyddiaeth iaith. Mae'r dull hyblyg hwn o ddarparu hyfforddiant wedi galluogi pobl o bob cefndir i gymryd rhan mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.
Un o gryfderau’r cynllun yw’r cyrsiau pwrpasol sydd wedi’u datblygu ar gyfer sectorau penodol, megis Iechyd a Gofal. Mae’r rhain yn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau gwaith penodol, gan gyfrannu at ddarparu gwasanaethau mwy dwyieithog a chynhwysol.
Mae’n galonogol gweld cynnydd sylweddol yn y galw am y gwasanaethau hyn. Mae diwydiannau a sefydliadau bellach yn dod at y Ganolfan, gan gydnabod gwerth cael gweithluoedd dwyieithog. Yn sgil hyn, rydym yn gweld pobl yn ennill hyder newydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd gwaith – a hynny’n newid diwylliant y gweithle o fewn nifer o sectorau.
Gan ymateb i’r galw cynyddol hwn, mae’r Ganolfan yn bwriadu esblygu’r cynlluniau ymhellach. Mae datblygiadau cyffrous ar y gweill, gan gynnwys cynlluniau i fesur sgiliau ieithyddol gweithwyr. Bydd hyn yn helpu cyflogwyr i gael darlun clir o allu ieithyddol eu staff, gan eu galluogi i dargedu cefnogaeth ac adnoddau’n well.
Mae’r Ganolfan yn awyddus i barhau i ddarparu’r gwasanaeth i gymaint o gyflogwyr ag sy’n bosib, ac i ymateb i’r galw cynyddol am y gwasanaeth.
Edrychwn ymlaen at y camau nesaf yn natblygiad Cymraeg Gwaith, ac at barhau i weld mwy o bobl yn dysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn y gweithle.
Mae mwy o wybodaeth am gynllun Cymraeg Gwaith ar gael trwy ddilyn y ddolen nesaf: Gwasanaethau Cymraeg Gwaith | Dysgu Cymraeg