Aleighcia a’r Llais

Mae Aleighcia Scott yn gantores reggae a chyflwynydd o Gaerdydd. Mae hi hefyd yn hyfforddwr ar gyfres newydd S4C, Y Llais, ac mae’n dysgu Cymraeg.
Mae Y Llais yn fersiwn Gymraeg o sioe dalent, The Voice, a’r tri hyfforddwr arall ydy’r canwr opera Syr Bryn Terfel, y gantores Bronwen Lewis a’r seren bop, Yws Gwynedd.
Cawson ni sgwrs ag Aleighcia am ei gwaith ar y gyfres eiconig yma.
Sut brofiad ydy bod ar y panel gyda Yws, Bronwen a Bryn Terfel?
Dw i’n caru gweithio gyda Yws, Bronwen a Bryn - mae’n lot o hwyl a dw i’n dysgu lot o Gymraeg! Mae’r pedwar ohonon ni yn dod o genres gwahanol, ac wedi cael lot o wahanol brofiadau cerddorol yn y gorffennol.
Ond mae un peth yn gyffredin gyda ni – ’dyn ni’n pedwar yn dod o Gymru ac yn caru cerddoriaeth.
Oeddet ti’n adnabod y tri arall cyn y rhaglen?
Ro’n i’n adnabod Bronwen oherwydd ein bod ni’n dwy yn cyflwyno ar BBC Radio Wales, ond do’n i ddim yn adnabod Yws na Bryn. Erbyn hyn, maen nhw fel teulu i fi – ac er ’mod i ychydig yn iau na Yws, mae e’n teimlo fel brawd bach i mi!
Beth wyt ti’n ei feddwl o safon y cystadleuwyr?
Dw i’n gwybod bod Cymru yn cael ei hadnabod fel ‘gwlad y gân’, ond dw i’n methu credu faint o dalent ’dyn ni wedi ei gweld – mae pawb wedi bod yn hollol anhygoel.
Ro’n ni’n meddwl y bydden ni’n adnabod y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr gan fod Cymru’n fach – ond dyw hynny heb fod yn wir! Mae’n hyfryd gweld cymaint o bobl sy’n caru canu.
Mae nifer o’r cystadleuwyr yn dysgu Cymraeg fel ti – sut mae hynny’n gwneud i ti ei deimlo?
Mae’n wych, achos mae’n bwysig iawn rhoi llwyfan i bobl sy’n dysgu Cymraeg ar S4C, ac i ddangos nad oes angen Cymraeg berffaith i fod ar y teledu – wrth siarad neu ganu. Mae rhaglenni fel hyn yn hynod bwysig er mwyn dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.
Beth yw dy gyngor i bobl sy’n gwylio’r rhaglen ac sy eisiau dechrau canu?
Baswn i’n dweud – wastad bod yn ti dy hun ac aros yn driw i ti dy hun. Mae’n bwysig dy fod ti’n mwynhau dy hun.
Ydy Y Llais yn mynd i newid y sîn gerddorol yng Nghymru?
Ydy, dw i’n credu ei fod e. Mae’n mynd i agor drysau o ran canu yn y Gymraeg a dw i’n credu y byddwn ni’n gweld mwy o bobl yn gwneud cerddoriaeth yn Gymraeg, ac yn siarad Cymraeg. Mae pobl wedi anfon negeseuon ata i o bob rhan o’r byd ar ôl gweld y rhaglen, ac mae’n cyflwyno’r Gymraeg i wledydd a phobl sydd erioed wedi ei chlywed o’r blaen.
Dw i hefyd mor falch bod The Voice wedi dod i Gymru, yn Gymraeg, gan roi Cymru ar y sgrin fawr. Mae wedi bod yn brofiad anhygoel i mi a dw i wedi mwynhau bob eiliad.