Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Araith Kierion Lloyd yn yr Eisteddfod

Araith Kierion Lloyd yn yr Eisteddfod

Diolch yn fawr i Kierion am gymryd rhan yn nigwyddiad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 4 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Isod, mae ei araith sy’n sôn am ei daith yn dysgu Cymraeg.

Cyflwyniad

Kierion dw i. Dw i'n dod o Aberhonddu yn wreiddiol, ond wedi byw yn ardal Wrecsam am ugain mlynedd. Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ym mis Medi 2018, bron saith mlynedd yn ôl. Dw i ’di cyrraedd lefel Uwch 2 rŵan, ac yn rili mwynhau.

Profiad o ddysgu

Dw i'n cofio fy nosbarth cyntaf ac yn poeni tipyn bach - ro'n i'n meddwl “Fydda i'n gallu gwneud hyn?”, “Fydda i'n gallu deall popeth?”

Ond roedd fy nhiwtor yn wych - roedd hi'n gwneud y dosbarth yn hwyl. A dyma'r peth pwysig i mi - pan fydd rhywbeth yn hwyl, dach chi'n gwneud mwy o ymdrech.

Sut dw i'n defnyddio’r iaith?

Dw i ddim yn gallu defnyddio fy Nghymraeg yn y gwaith achos dw i'n gweithio yn Lloegr. Felly dw i'n defnyddio Cymraeg tu allan i’r gwaith cymaint â phosib. 

Dw i'n defnyddio apiau Cymraeg, trio darllen llyfrau Cymraeg, gwylio rhaglenni ar S4C ac yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Dw i'n trio cymryd pob cyfle i ddefnyddio Cymraeg. Dw i'n mynd i lawer o sesiynau sgwrs yn yr ardal ’ma, sef Wrecsam, Rhuthun, Croesoswallt ac yn Owrtyn.

Dw i'n teithio ledled Cymru i fynd i amrywiaeth o wyliau cerddoriaeth, fel Tafwyl yng Nghaerdydd, Sesiwn Fawr yn Nolgellau, Gŵyl Cefni yn Ynys Môn, Gŵyl y Gogs yn ardal Y Bala, ac ati, lle dw i’n gallu siarad efo pobl o'r ardal - pobl efo acenion a thafodieithoedd gwahanol.

Sut mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd?

Mae’n amlwg bod cerddoriaeth yn rhan fawr o fy mywyd. Mae dysgu’r iaith Gymraeg wedi agor fy llygaid (a’m clustiau) i fyd newydd sbon o gerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg.

Oni bai fy mod i wedi dechrau dysgu Cymraeg, fyddwn i ddim wedi gwybod am y bandiau, y perfformwyr a'r lleisiau anhygoel sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Fel dysgwyr dan ni yn rhan o gymuned fawr, lle mae pawb yn yr un cwch. Fel siaradwyr Cymraeg, dan ni’n gymuned enfawr sydd i'w gweld yma yn yr Eisteddfod. Mae pawb mor gefnogol ac yn annog pobl fel fi i ddal ati.

Felly, dw i'n gallu deud bod dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd i.

Cyngor

Os dw i'n gallu rhoi rhywfaint o gyngor, mi fydda i'n deud “Paid â chanolbwyntio ar berffeithrwydd. Yn lle, canolbwyntia ar ddathlu cynnydd”.

A hefyd, paid â phoeni am wneud camgymeriadau. Dyna sut dan ni i gyd yn dysgu unrhyw beth. Gwnewch gamgymeriadau, ac yna dysgwch oddi wrthyn nhw.