Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Araith Tori James

Araith Tori James

Roedd yn bleser cael cwmni tri o’n siaradwyr newydd yn un o ddigwyddiadau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg  ar faes Eisteddfod y Garreg Las, sef ein Llysgenhadon Dysgu Cymraeg, Tori James ac Aleighcia Scott, ac Anna McMorrin AS, Gweinidog Swyddfa Cymru. 

Fe rhannodd y dair eu profiadau o ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, a chreu argraff arbennig. Dyma araith Tori, i roi blas i chi o’r digwyddiad...

Prynhawn da i chi gyd. Mae’n braf bod yma i ddathlu 10 mlynedd o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a’r ffaith bod mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn dysgu Cymraeg.

Tori James dw i. Ces i fy ngeni yn Hwlffordd. Ces i fy magu ddim yn bell o fan hyn, ar fferm, yr ochr arall i Fynyddoedd y Preseli. Mynyddoedd bach ydyn nhw, ond maen nhw’n gallu bod yn wyllt ac yn heriol yn y gaeaf. Dw i’n eu caru nhw. Maen nhw, wrth gwrs, yn gartref y Garreg Las.

Dw i'n meddwl bod y Gymraeg yn iaith hardd ond yn anffodus wnes i ddim dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Roedd fy nhaid yn siarad Cymraeg, ond nid fy nhad. Astudiais i Ffrangeg ac Almaeneg ar gyfer Lefel A, ond wnes i byth ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag, ro’n i’n canu yn Gymraeg gyda Chôr Sir Benfro.

Dw i'n cofio pan gafodd y llyfr Genod Gwych a Merched Medrus ei gyhoeddi. Roedd fy stori i ynddo, yn Gymraeg, ond do’n i ddim yn deall y geiriau. Bryd hynny, ro’n i'n gwybod fy mod i eisiau dysgu Cymraeg un diwrnod.

Felly, pam dysgu Cymraeg nawr yn fy mhedwardegau?

Dw i’n gweithio fel siaradwr ysbrydoledig a Mam ydw i. Mae gen i ddau o blant, maen nhw’n 8 oed a 6 oed. Pan aeth fy mhlant i’r ysgol cyfrwng Cymraeg, roedd yn gyfle perffaith i ddechrau gwersi Cymraeg. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd. Dw i wedi cael un wers yr wythnos ar-lein gyda Dysgu Cymraeg. Mae wedi datgloi drws do’n i ddim yn gwybod ei fod ar gau. Mae wedi bod yn brofiad gwych.

Mae dysgu iaith yn cymryd amynedd ac ymrwymiad, ond bob blwyddyn dw i’n cyrraedd copa newydd. Dw i’n gallu gwneud mwy a dweud mwy nag o’r blaen. Mae’n eithaf emosiynol, a dweud y gwir, gweld pa mor bell dw i wedi dod. Bob wythnos dw i’n siarad â rhywun sydd eisiau dysgu, neu sy’n trio dysgu. Dw i’n dweud: “Mae’n cymryd amser, ond ti’n gallu.” Dw i’n mwynhau annog eraill i ddysgu drwy fy ngwaith fel Llysgennad Dysgu Cymraeg. Mae’n arbennig iawn bod fy chwaer yn dysgu hefyd, a dyn ni’n ymarfer gyda’n gilydd. Mae wedi rhoi cysylltiad newydd i mi gyda phobl dw i wedi’u hadnabod ers blynyddoedd.

Beth nesaf i fi?

Pasiais i’r arholiad Canolradd. Diolch byth! Bydda i’n dechrau Lefel Uwch fis nesaf. Dw i’n edrych ymlaen at dreulio amser yn Nant Gwrtheyrn. Pan ddechreuais i ddysgu Cymraeg, un o fy nodau mawr oedd gallu siarad digon o Gymraeg erbyn Mai 2027. Ar y dyddiad hwnnw, bydd hi'n ugain mlynedd ers i mi sefyll ar gopa Everest, a hoffwn i ddathlu yn Gymraeg. Dw i'n meddwl mod i ar y llwybr iawn!

Mae heddiw'n gyfle gwych i ddweud diolch i bawb sydd wedi fy helpu i gyrraedd y fan hon ac sydd wedi bod mor gefnogol ac mor galonogol: fy nhiwtoriaid yn Dysgu Cymraeg, y rhieni eraill y tu allan i'r ysgol yng Ngwaelod-y-Garth yng Nghaerdydd, fy nghyd-ddysgwyr, a chymaint o bobl eraill.

Pa gyngor sydd gen i i ddysgwyr eraill?

Mae dysgu iaith yn gallu teimlo'n llethol weithiau. Os wyt ti'n ddysgwr yma heddiw, hyd yn oed os wyt ti newydd ddysgu un gair, dyweda "da iawn" wrthot ti dy hun. Mae pob cam bach yn gam ymlaen. Dathla'r pethau bach. A dweud y gwir, dw i'n camu y tu allan fy llwybr cyfforddus wrth wneud hyn. Rhai dyddiau dw i'n llawn hyder, a dyddiau eraill dw i'n teimlo heb hyder. Ond paid â rhoi'r ffidil yn y to – dali ati.

Dw i'n cael ysbrydoliaeth gan bobl eraill drwy'r amser... Y newyddion gwych yw bod mwy a mwy o bobl yn dysgu Cymraeg – mae niferoedd y dysgwyr yn uwch nag erioed ar hyn o bryd. Dw i eisiau i’n hiaith fod yn fwy o stori lwyddiant. Hoffwn i weld Cymru’n wlad ddwyieithog falch. Fel dringo yn y mynyddoedd, mae’n cymryd un cam ar y tro.