Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan yn sbardun i dwf yn y niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg

Arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan yn sbardun i dwf yn y niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg

Mae cynllunio ieithyddol manwl ac arbenigedd dysgu a chaffael iaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ei galluogi i ddenu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg – gyda mwy o bobl nag erioed yn dysgu’r iaith.

Yn ôl data swyddogol diweddaraf y Ganolfan, cwblhaodd 18,330 o bobl gyrsiau Dysgu Cymraeg yn 2023–2024 – y nifer uchaf erioed, a chynnydd o 45% ers i’r Ganolfan gymryd cyfrifoldeb dros y sector yn 2016.

Mae Adroddiad Blynyddol y Ganolfan ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024–2025, a gyhoeddir heddiw yn dangos sut mae gweithgarwch y Ganolfan wedi arwain at y twf yn y niferoedd sy’n dysgu’r Gymraeg. Bydd dysgwyr lleol a chynrychiolwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam – un o bartneriaid y Ganolfan – yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Cyrsiau a strategaeth genedlaethol

Yn ogystal â darparu 1,500 o gyrsiau Dysgu Cymraeg i oedolion yn y gymuned ac ar-lein, mae’r Ganolfan yn arwain strategaeth Dysgu Cymraeg genedlaethol sy’n hwyluso mynediad i’r iaith, yn denu cynulleidfaoedd newydd ac yn normaleiddio’r defnydd ohoni.

Gweithleoedd

Mae dros 2,000 o gyflogwyr a 30,000 o weithwyr wedi cymryd rhan yng nghynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan, sy’n cefnogi pobl i ddysgu neu wella eu Cymraeg yn y gweithle. Ymhlith y prosiectau sector-benodol mae partneriaethau â Heddlu Gogledd Cymru, cwmni Airbus, a’r sector chwaraeon – gan gynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Chlwb Pêl-droed Wrecsam, lle mae tiwtoriaid yn darparu hyfforddiant iaith i staff a chwaraewyr.

Y Gweithlu Addysg

Mae’r Ganolfan yn arwain Rhaglen Dysgu Cymraeg genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg.  Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau ar bob lefel ar gyfer staff ysgolion cynradd ac uwchradd, cynlluniau ar gyfer y sector Gofal Blynyddoedd Cynnar a Chwarae, hyfforddiant i athrawon sydd eisiau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a chyrsiau i ddarpar athrawon.

Pobl Ifanc

Mae’r Ganolfan wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc 16–24 oed sy’n dysgu Cymraeg, gyda 2,635 yn cwblhau cyrsiau yn 2023–2024 – cynnydd o 274% ers cyhoeddi’r data oedran cyntaf yn 2017–2018. Mae’r gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys cyrsiau oedran-benodol, cynlluniau ar gyfer myfyrwyr Addysg Bellach ac Addysg Uwch a phrentisiaethau.  Mae’r Ganolfan hefyd yn cydweithio â sefydliadau megis yr Urdd a Gwobr Dug Caeredin i gynyddu’r cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Croesawu pobl yn ôl at y Gymraeg

Mae’r Ganolfan hefyd yn arwain cynlluniau Codi Hyder a Defnyddio – yn y gweithle ac yn y gymuned – gan helpu siaradwyr di-hyder neu’r rhai sydd wedi colli’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg i ailgysylltu â’r iaith.

Golwg tua’r dyfodol

Yn 2027, bydd gwaith y Ganolfan yn trosglwyddo i gorff statudol newydd, yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cael ei sefydlu fel rhan o Ddeddf y Gymraeg ac Addysg. Bydd gan yr Athrofa rôl allweddol i sicrhau darpariaeth dysgu Cymraeg gydol oes a bydd yn adeiladu ar lwyddiannau’r Ganolfan.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’r cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr yn adlewyrchu cryfder ein model dysgu, a’n gallu i gynllunio’n strategol er mwyn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.

“Dan ni’n hynod falch o bob un o’n dysgwyr, ein tiwtoriaid, staff cefnogi a’n partneriaid ledled Cymru, ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd – ac wrth i ni baratoi at drosglwyddo ein gwaith i’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn 2027, edrychwn ymlaen at gam nesaf ein datblygiad fel sector, gyda ffocws clir ar sicrhau cyfleoedd dysgu gydol oes, er mwyn cefnogi mwy o bobl o bob oed a chefndir i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.”