
Cyhoeddwyd heddiw (2 Awst am 12.00pm yn stondin Llywodraeth Cymraeg ym Maes D yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam) mai Barbara Roberts o Aberaeron sy’n derbyn Tlws Coffa Aled Roberts.
Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er cof am Aled Roberts, y gwleidydd a chyn Gomisiynydd y Gymraeg, a ddaeth yn wreiddiol o Rosllanerchrugog. Mae’r tlws yn cael ei gyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.
Dysgodd Barbara y Gymraeg fel oedolyn, ac ers 10 mlynedd mae wedi bod yn cefnogi dysgwyr eraill ar eu taith yn dysgu’r iaith. Mae’n trefnu llu o weithgareddau yn ei hardal, mae’n siaradwraig wadd boblogaidd ac yn cadeirio Cymdeithas Ceredigion, sy’n ymwneud â byd y ‘Pethe’.
Mae Barbara yn trefnu grŵp siarad yn Llanerchaeron ac yn mynychu sesiynau coffi a chlonc yn Aberaeron. Mae’n arwain teithiau tywys o amgylch Llanerchaeron ac Aberaeron.
Mae’n gefnogwr brwd o gynllun ‘Siarad’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg, cynllun sy’n paru siaradwyr Cymraeg â dysgwyr, er mwyn rhoi cyfle iddynt sgwrsio a chymdeithasu yn Gymraeg tu allan i’r dosbarth.
Mae gan Barbara ddiddordeb mawr mewn llenyddiaeth, ac mae’n aelod selog o glwb darllen Rhannu Geiriau a grŵp Gwibio, sy’n trafod llenyddiaeth Gymraeg.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’n amlwg bod Barbara yn aelod gwerthfawr o’r gymuned Gymraeg yn ardal Aberaeron, ac mae pawb yn dweud ei bod wastad yn barod ei chymwynas mewn cymaint o feysydd.
“Mae’n angerddol dros y Gymraeg ac yn croesawu a chefnogi dysgwyr a siaradwyr Cymraeg i fwynhau llu o weithgareddau a sesiynau difyr y mae hi’n eu trefnu. Mae gwaith ardderchog yn cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad i gefnogi dysgwyr, ac mae Barbara yn enghraifft berffaith o rywun sy’n gweithio’n ddiflino yn y gymuned i helpu eraill i fwynhau dysgu a siarad Cymraeg. Diolch enfawr, Barbara, am eich holl waith.”