Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Beth sy ar Radio Cymru?

Beth sy ar Radio Cymru?

Dych chi’n hoffi gwrando ar y radio yn y tŷ neu’r car?  Bydd llawer o raglenni diddorol ar Radio Cymru dros y misoedd nesaf.

Dych chi’n hoffi podlediadau, cerddoriaeth neu sgyrsiau?  Bydd rhywbeth i bawb…

Ding Dong

Eisiau gwybod mwy am gartrefi pobl enwog?  Yn Ding Dong, bydd Lisa Gwilym a Llŷr Evans yn mynd i gartrefi pobl enwog.  Mae Lisa a Llŷr yn mwynhau sgwrsio gyda’r sylwebydd Nic Parry a’r cyflwynydd Mari Lovgreen.

Oedfa

Ar ddydd Nadolig bydd gwasanaeth ar Radio Cymru.  Y Parchedig Gareth Ioan o Flaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin, fydd yn arwain y gwasanaeth.

Bore Cothi

Beth dych chi’n hoffi bwyta dros y Nadolig?  Bydd rhaglen Bore Cothi yn trafod bwyd y Nadolig.  Beth am wrando i gael syniadau a rhoi cynnig ar y ryseitiau?

Newyddion y Flwyddyn

Ar ddiwedd y mis, bydd rhaglen arbennig o’r enw Newyddion y Flwyddyn.  Alun Thomas fydd yn edrych yn ôl ar brif straeon newyddion 2025.

Traciau’r Flwyddyn

Ar 31 Rhagfyr, bydd Ifan Davies yn cyflwyno Traciau’r Flwyddyn.  Bydd Ifan yn chwarae cerddoriaeth newydd y flwyddyn, ac yn siarad am rai o’r traciau gorau.

Sioe Caryl

Bydd Caryl Parry Jones yn croesawu’r Flwyddyn Newydd yn fyw o’r stiwdio.  Beth am wrando, a gofyn i Caryl am gân arbennig?

radio cymru

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Bydd dwy bennod newydd o Y Podlediad Dysgu Cymraeg ar BBC Sounds ym mis Rhagfyr:

Pennod 1 -  Bydd Angharad Lewis yn siarad gyda Josh Morgan, sef Sketchy Welsh.

Pennod 2 - Uchafbwyntiau’r mis, gan cynnwys geirfa i helpu dysgwyr.

Mwy o wybodaeth

Cofiwch wrando ar y rhaglenni’n fyw ar BBC Radio Cymru, neu ar BBC Sounds.