Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Beth sy ar S4C?

Beth sy ar S4C?

Dych chi’n hoffi gwylio teledu dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?  Bydd llawer o raglenni cyffrous ar S4C dros yr ŵyl.

Dych chi’n hoffi comedi, bwyd neu deithio?  Bydd rhywbeth i bawb ar S4C…

Mike Bubbins: Un Mewn Miliwn

Comedïwr ydy Mike Bubbins, ac mae e eisiau dysgu Cymraeg.  Mae Mike eisiau dysgu Cymraeg mewn blwyddyn.  Yn y rhaglen, mae Mike yn mynd i ddosbarth Cymraeg, ac yn defnyddio’r iaith bob dydd.

Gwlad y Basg: Gwilym Bowen Rhys

Mae’r cerddor Gwilym Bowen Rhys yn teithio i Wlad y Basg.  Bydd Gwilym yn dysgu am hanes, iaith, cerddoriaeth a diwylliant y wlad.  Bydd hefyd yn cwrdd â phobl leol sy’n siarad Cymraeg.

Llond Bol o Japan

Mae’r cogydd Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn mynd i Japan.  Bydd Chris yn mynd i weld stondinau bwyd stryd a marchnadoedd enwog.

Cegin Clwyd: Nadolig Bryn Williams

Mae’r cogydd enwog, Bryn Williams yn dathlu’r Nadolig adref yn Nyffryn Clwyd.  Bydd yn coginio twrci, pwdin oren a siocled, coctêl Nadolig a brechdan gaws wedi’i thostio.

Sgwrs Dan y Lloer

Dych chi wedi gwylio Sgwrs Dan y Lloer o’r blaen?  Mae Elin Fflur yn holi gwahanol enwogion.  Dyma pwy fydd yn cymryd rhan yn y gyfres nesaf:

- Y cyn bêl-droediwr, Malcolm Allen

- Yr actores, Rhian Morgan

- Y bardd, Gwyneth Lewis

- Y canwr, Delwyn Siôn

- Y gantores, Tara Bethan

Y Deis

Dych chi’n hoffi cwis?  Bydd cyfres gwis Y Deis ar y teledu dros y Nadolig.  Dyma pwy fydd yn cymryd rhan:

- Y cyflwynydd, Iolo Williams a’i fab Dewi

- Y cyflwynwyr, Dom a Lloyd

- Yr actorion, Jonathan Nefydd & Donna Edwards

- Y cyflwynwyr, Trystan & Emma

- Yr actorion, Lily Beau & Dyfan Rees

- Y cyn chwaraewr rygbi Shane Williams a’r dyfarnwr Nigel Owens

Mwy o wybodaeth

Dych chi wedi gweld gwefan Dysgu Cymraeg S4C?  Mae llawer o bethau diddorol yno.  Dych chi’n gallu cofrestru i gael cylchlythyr S4C i ddysgwyr.  Mae’r cylchlythyr yn cynnwys rhestr o bethau i'w gwylio pob mis.  Cofrestrwch yma: s4c.cymru/dysgucymraeg

Mae mwy o luniau ar gael isod: