Dych chi'n mynd i weld drama Byth Bythoedd Amen?
Bydd y Ganolfan yn cynnal sgwrs ar-lein am y ddrama ar 14 Ionawr am 7yh. Bydd Eirian Conlon yn holi Mared Jarman a Paul Davies am y ddrama.
Bydd y sgwrs yn addas i ddysgwyr ar lefelau Canolradd, Uwch a Gloywi. Dych chi'n gallu cofrestru drwy anfon e-bost at sian.elin@theatr.com
Bydd y ddrama yn ymweld â Chaerdydd, Llanelli, Rhosllanerchrugog, Bangor, Caernarfon a Felinfach ddiwedd Ionawr/dechrau Chwefror.
Dych chi'n gallu archebu tocynnau isod, a bydd gostyngiad o 10% i unrhyw aelod o gynllun Siarad y Ganolfan.
Theatr Cymru | Byth Bythoedd Amen