Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Caffi Portiwgaleg yn Wrecsam yn lleoliad newydd i ddysgu Cymraeg

Caffi Portiwgaleg yn Wrecsam yn lleoliad newydd i ddysgu Cymraeg
Maria Medina a'r dosbarth dysgu Cymraeg

Llun: Maria (yr ail o'r dde yn y cefn) gyda'r dosbarth Cymraeg. 

Mae Maria Medina, sy’n siarad Portiwgaleg fel iaith gyntaf, wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn caffi Portiwgaleg yng nghanol tref Wrecsam.

Mae Maria wedi bod yn dilyn cwrs blasu 10 wythnos gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei redeg gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Cydweithiodd Coleg Cambria gyda Race Council Cymru i gynnal y cwrs.

Daw Maria’n wreiddiol o ynysoedd Cape Verde, ond mae hi wedi ymgartrefu yn ardal Wrecsam ac yn gweithio yn y dref i gwmni Fibrax ers dros dair blynedd. Penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg am ei bod eisiau deall iaith y wlad lle mae hi’n byw.

Hannah Wright, sy’n gweithio i Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, oedd un o’r tiwtoriaid a fu’n dysgu ar y cwrs. Meddai, “Prif fwriad cynnal y cwrs yng nghaffi Vasco Da Gama yn y dref oedd i sicrhau bod y dysgwyr yn teimlo eu bod yn medru ymlacio, mwynhau a chefnogi ei gilydd mewn awyrgylch cyfarwydd ac anffurfiol. Mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr a ddaeth ar y cwrs, yn cynnwys Maria, yn siarad Portiwgaleg fel iaith gyntaf ac wedi ymgatrefu yn Sir Wrecsam. ’Dyn ni’n falch iawn ohonyn nhw.”

Yn ystod mis Ebrill eleni mynychodd y dosbarth cyfan ŵyl Ar Lafar, sef gŵyl genedlaethol i ddysgwyr a drefnir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar safleoedd Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Daeth dros 650 o ddysgwyr i’r ŵyl a gynhaliwyd ar bedwar safle, sef Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan; Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Meddai Hannah, “Roedd yr ŵyl yn gyfle arbennig i’r criw gael profi a dysgu am hanes a diwylliant Cymru a hynny drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Cawson ni daith hyfryd i weld Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd hi’n braf iawn gweld y dysgwyr yn gwneud ymdrech i ddeall ac i ddefnyddio’r Gymraeg yn ystod y dydd.”

Dw i wedi mwynhau’r cwrs blasu yn fawr iawn, ac yn edrych ymlaen at gael dysgu mwy o’r iaith, ac am hanes a diwylliant Cymru. Mae hi’n wych cael teimlo’n rhan o’r gymued lle ’dyn ni’n byw. Ym mis Medi bydd cyfle eto i’r gymuned hon o ddysgwyr i gymryd rhan mewn gwersi, teithiau a sesiynau am Gymru.

Maria Medina

Er mwyn dod o hyd i gwrs Cymraeg neu gyfleon i ddefnyddio’r Gymraeg yn eich ardal chi, ewch i dysgucymraeg.cymru. Mae cyrsiau am ddim ar gael ar ein gwefan hefyd.