Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Canu mewn côr yn helpu Rachel i ddysgu Cymraeg

Canu mewn côr yn helpu Rachel i ddysgu Cymraeg

Doedd gan Rachel Bedwin, sy’n 27 oed ac yn wreiddiol o Lundain, ddim cyswllt â Chymru na’r Gymraeg pan ddechreuodd hi ddysgu’r iaith yn ystod un gwyliau haf tra ym Mhrifysgol Caergrawnt. 

Ffrind iddi oedd yn awyddus i ddysgu Cymraeg, gan ei fod yn mynd ar wyliau yn aml i Gymru, a hithau yn meddwl y gallai fod yn rhywbeth difyr i’w wneud am ychydig o fisoedd dros yr haf.

Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, ar ôl dilyn cwrs Duolingo, doedd hi ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda’r iaith gan nad oedd ganddi unrhyw fwriad symud i Gymru i fyw.

Ond newidiodd hynny wedi iddi fynd am wythnos o ‘wyliau gweithio’ fel rhan o Wobr Dug Caeredin, i safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Craflwyn, Beddgelert.

Meddai Rachel, “Ar ôl wythnos yng Nghraflwyn, ro’n i’n hoffi’r syniad o weithio i’r Ymddiriedolaeth ac o’n i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi siarad Cymraeg os am weithio yn yr ardal.  Felly, o weithio’n galed a dysgu mwy o Gymraeg, mi allwn ddod yn ôl i’r ardal i weithio yn y dyfodol.

“Daeth y cyfnod clo yn fuan wedyn. Ro’n i’n gaeth mewn tŷ yng nghanol Llundain, yn hiraethu am fynyddoedd Eryri.  Mi wnes i benderfynu gwirfoddoli am flwyddyn, i gael profiad cadwraeth – yn ardal y Llynnoedd ac wedyn yn Ynys Wair (Lundy Island) tra’n cario mlaen i ddysgu Cymraeg ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Gwelais i swydd gyda thîm llwybrau Craflwyn yn fuan ar ôl hynny, a llwyddo i gael y swydd. Roedd bron pawb yn y tîm yn siarad Cymraeg ac ar y dechrau, ro’n i’n deall y rhan fwyaf o bethau.

“Ond ar ôl ychydig o fisoedd, gan nad oedd neb yn siarad Saesneg efo fi, mi wnes i ddod i allu ateb a chymryd rhan mewn sgwrs – dim ond angen cyflymu o’n i.  Dyma’r ffordd orau i ddysgu yn fy marn i gan nad oedd dim opsiwn troi i’r Saesneg!”

Pan symudodd Rachel i Gymru, cafodd le i aros yn Nhremadog, a daeth ar draws Côr Eifionydd.  Roedd Rachel wastad wedi mwynhau canu ac fe ymunodd â’r côr.

Meddai, “Mae mwy nag un wedi dweud fod gen i acen naturiol pan dw i’n siarad Cymraeg, a dw i’n credu fod hynny diolch i’r côr.  Ro’n i’n eistedd yng nghanol pobl leol, yn gwrando ar sut maen nhw’n canu ac yn ynganu geiriau, fel fod fy llais yn asio pan o’n i’n canu. 

“Dw i hefyd yn meddwl fod cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn llawer o help i mi ynganu tra’n dysgu Cymraeg, i glywed llif yr iaith.  Ro’n i’n gwrando ar yr un caneuon, dro ar ôl tro, er nad o’n i’n deall y geiriau bob amser, gan geisio canu gyda’r gân.  Ac os o’n i’n licio’r gân, mi faswn i’n mynd ati i gyfieithu’r geiriau er mwyn deall yr ystyr. 

“Mae gwrando ar gerddoriaeth a chanu yn cynnig gymaint o gamau yn y daith o ddysgu iaith.”

Mae Rachel wedi bod yn byw yng Nghymru ers bron i ddwy flynedd bellach, ac yn siarad Cymraeg yn ddyddiol yn ei gwaith a gyda ffrindiau yn yr ardal.  Yn ddiweddar, mae hi wedi cael swydd newydd gyda RSPB Cymru fel Swyddog Polisi Natur cenedlaethol.

Dyma oedd ei chyngor i unrhyw un sy’n ganol eu taith yn dysgu’r iaith, “Mae cerddoriaeth wedi bod yn bwysig iawn i mi ond mae’n bwysig mynd allan i’r gymuned a chychwyn siarad yr iaith.

“Mae oedolion yn poeni am wneud camgymeriadau ond rhaid cofio mai prif bwynt iaith ydy cyfathrebu. Does dim ots os oes camgymeriadau ar y dechrau – mi ddaw hynny gydag amser.”