
Mae canu ar Y Llais 2025 ar S4C wedi ysbrydoli Anna Arrieta, cantores a chyfansoddwraig o Borthcawl, i fynd ati o ddifri i ddysgu Cymraeg.
Dechreuodd Anna ddysgu Cymraeg yn yr ysgol, ond doedd hi ddim yn teimlo ei bod yn gallu ymgysylltu â’r iaith, a doedd dim hyder gyda hi i’w siarad.
Bellach, ar ôl mwynhau’r profiad o gystadlu ar y rhaglen boblogaidd, a chyrraedd y rownd derfynol, mae Anna yn dilyn cwrs Dysgu Cymraeg trwy un o gynlluniau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Anna, sy’n gweithio i gwmni cynhyrchu ffilm It’s My Shout, yn dilyn cwrs Codi Hyder arbennig, ac mae’n derbyn sesiynau un i un bob wythnos gyda thiwtor profiadol.
Yn ogystal â’r cwrs, mae Anna yn defnyddio apiau, gwylio rhaglenni teledu Cymraeg, gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, ac ymarfer gyda’i chydweithwyr er mwyn datblygu ei sgiliau a magu hyder i ddefnyddio’r iaith.
Eglura Anna: “Roedd canu’n Gymraeg ar y Llais yn deimlad hynod bwerus, ac yn drobwynt i fi – do’n i erioed wedi meddwl y baswn i’n clywed fy hun yn canu yn yr iaith.
“Roedd pawb mor groesawgar a chynhwysol ar y rhaglen, ac roedd yn brofiad mor cŵl.
“Roedd yn wych gweld Aleighcia Scott yn feirniad ac yn dysgu Cymraeg, ac roedd ei phrofiadau hi wedi fy annog i fynd amdani.
“Nawr fy mod i wedi dechrau dysgu eto, mae’r rhwystr yna o feddwl nad ydw i’n gallu siarad yr iaith wedi diflannu. Mae gweld yr iaith mewn ffordd wahanol wedi newid fy mywyd, mewn gwirionedd.
“Yn y gwaith, ’dyn ni’n creu llawer o ffilmiau byr, rhaglenni dogfen a dramâu yn Gymraeg. Dw i’n gallu defnyddio fy Nghymraeg ar set, ac i gysylltu â chydweithwyr a phobl greadigol.”
Ers bod ar Y Llais, mae Anna wedi gwneud sawl gig Cymraeg, ac wedi bod mewn stiwdio yn recordio cân Gymraeg. Mae Anna hefyd yn ysgrifennu caneuon ei hun yn Gymraeg ac mae’n bwriadu canolbwyntio ar gyfansoddi, recordio, a rhyddhau caneuon newydd yn y dyfodol.