Mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi bod pecyn i ddysgwyr ar gael, wedi’i seilio ar eu cynhyrchiad nesaf, Macbeth.
Crëwyd y pecyn i ddysgwyr gan Nant Gwrtheyrn, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chymorth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a gemau i ddysgwyr a chanllaw ar wahân ar gyfer tiwtoriaid. Mae’r deunydd yn addas ar gyfer dosbarthiadau Uwch a Hyfedredd ac yn cynnwys gweithgareddau i’w cyflawni cyn gweld y ddrama, a rhai ar ôl ei gweld.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’n bwysig iawn bod pob agwedd ar ein diwylliant cyfoes yn agored i’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg. Dyna pam mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r gwaith o lunio pecynnau i helpu dysgwyr fwynhau cynyrchiadau yn agor drws arall i’n dysgwyr ni.”
Meddai Mair Saunders, Prif Reolwr Canolfan Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth yr ydym wedi ei chynnal gyda’r Theatr Genedlaethol yma yn Nant Gwrtheyrn ers tro drwy gynnal gwersi ar gyfer dysgwyr a llunio pecynnau sy’n cydfynd â’r cynyrchiadau. Pleser yw cael cyd weithio ar gynllun sydd yn galluogi’r rhai hynny sydd yn dysgu’r Gymraeg i fwynhau arlwy y Theatr Genedlaethol.”
Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae cydweithio â phartneriaid sy’n arbenigwyr yn eu maes yn bwysig iawn i ni. Edrychwn ymlaen at barhau’r cydweithio gyda Nant Gwrtheyrn a dechrau partneriaeth hir dymor gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn sicrhau bod ein cynyrchiadau’n berthnasol i bawb. ”
Bydd perfformiadau byw o Macbeth yng Nghastell Caerffili 7 – 18 Chwefror, a hefyd, drwy fenter newydd gyffrous Theatr Gen Byw, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ar draws Cymru ar 14 Chwefror, gydag ail-ddangosiadau gydag is deitlau Saesneg hyd diwedd Ebrill i ddilyn.
Manylion llawn: theatr.cymru
Macbeth: 7–18 Chwefror 2017, Castell Caerffili
16.00: 16 + 18 Chwefror
19.30: 8*/9/10/13/14**/15/17 Chwefror
20.00: 7*/11/16/18 Chwefror
*rhagddangosiad
**darllediad byw
Tocynnau: http://www.chapter.org/cy/macbeth / 029 2030 4400
Darllediad Byw: 14.02.2017 mewn canolfannau ar draws Cymru
Ail-ddangosiadau (gydag is-deitlau Saesneg): dyddiadau amrywiol rhwng 28.02.2017 a 23.04.2017 mewn canolfannau ar draws Cymru,
Cyfieithiad: Gwyn Thomas | Cyfarwyddo: Arwel Gruffydd
@TheatrGenCymru | #MacbethThGC
Am fwy o wybodaeth am y pecyn a gweithgareddau cyfranogi Macbeth, cysylltwch â Llinos Jones: llinos.jones@theatr.com 01267 245 612 │07903 842 612 neu Fflur Thomas Fflur.Thomas@theatr.com 01267 245603 │ 07903842613