Cerddoriaeth Gymraeg yn help wrth ddysgu’r iaith
Mae’n Ddydd Miwsig Cymru ar 10 Chwefror 2017 ac mae’r Ganolfan wedi bod yn holi dysgwyr sut mae gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg wedi’u helpu wrth ddysgu’r iaith. Dyma stori Gregg Lynn:
Gregg Lynn
Yn wreiddiol o Lyn Ebwy, mae Gregg wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Mae’n gerddor llwyddiannus ac erbyn hyn mae’n byw ger Llangrannog, yng Ngheredigion.
Pam mynd ati i ddysgu’r Gymraeg?
Fe es i i Brifysgol Keele yn ystod y 1960au lle wnes i gwrdd â llawer o Gymry Cymraeg yn y clwb rygbi ac ati, ac roedden nhw’n canu caneuon Cymraeg. Penderfynais fynd ati i ddysgu’r iaith drwy ddarllen llyfrau ar fy mhen fy hun, ond roedd hynny braidd yn anodd.
Ar ôl gweithio am dair blynedd yn Lloegr a chael ‘pwl o hiraeth’, penderfynais fynd i fyw yng Nghaerdydd gydag Annie, fy ngwraig, a dyna ddechrau ar fy nhaith i ddysgu’r iaith. I ddechrau roedden ni’n mynd unwaith yr wythnos i ddosbarth Cymraeg, ac yna fe wnaethon ni ddilyn cwrs dwys bob nos am dri mis.
Sut y gwnaeth cerddoriaeth Gymraeg eich helpu chi i ddysgu’r iaith?
Pan ddechreuon ni ddysgu’r Gymraeg ar ddechrau’r 1970au, roedd hi’n gyfnod cyffrous iawn i’r sîn roc Gymraeg. Roeddwn wrth fy modd gyda recordiau Edward H Dafis, ac roeddwn i a’m gwraig yn canu’r caneuon drosodd a throsodd. Wrth eu dysgu, roedden ni hefyd yn edrych yn y geiriadur, ac felly roedd gyda ni eirfa newydd yn syth.
Dw i’n credu bod cerddoriaeth yn ffordd wych o ddysgu iaith – mae’n haws dysgu geiriau cerdd (a chofio’r treigliadau hefyd!). Roedd grwpiau Mynediad am Ddim, Injaroc, Endaf Emlyn, Plethyn a llawer mwy yn ddylanwad arna’ i hefyd.
Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan fawr o’m bywyd i. Ymunais â grŵp Cymraeg ‘Shwn’ yn y 1970au, ac erbyn yr 1980au roeddwn i wedi ffurfio band ‘Yr Hwntws’ i ganolbwyntio ar recordio caneuon gwerin de Cymru, sy’n adlewyrchu tafodiaith y Wenhwyseg.
Sut mae cerddoriaeth Gymraeg a dysgu’r iaith wedi newid eich bywyd chi?
Mae Annie a minnau wedi cael boddhad mawr wrth ddysgu’r iaith, ac wedi medru pasio’r iaith ymlaen i’r genhedlaeth nesaf. Roedd medru canu hwiangerddi Cymraeg a mwynhau ‘Cwm Rhyd y Rhosyn’ gyda’n dwy ferch yn braf, ac erbyn hyn mae ein hwyres, Awen, sy’n 5 oed, wrth ei bodd gyda chaneuon Cyw a Dona Direidi.
Yn 2010 pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghlyn Ebwy, bu’r Hwntws yn perfformio ar y maes bron bob dydd. Buodd yr Hwntws yn mwynhau canu yn Eisteddfod y Fenni hefyd yn 2016, a chefais rannu’r llwyfan gyda fy merch, Nia Lynn.
Beth yw eich cyngor chi i bobl sydd wrthi’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd?
Mae dyfalbarhau yn bwysig, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud camgymeriadau. A’r peth arall yw i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg. Erbyn hyn, ’dyn ni wedi ymddeol i Geredigion, ac mae dod i ddeall Cymraeg y gorllewin yn sialens arall! Dw i’n canu gyda grŵp lleol Bois y Gilfach, ac yn gwrando ar amrywiaeth eang o artistiaid gwych yn y Gymraeg fel Sorela, Al Lewis a llawer mwy.
Am fwy o wybodaeth am gyrsiau Cymraeg ewch i dysgucymraeg.cymru