Mae Cerys Paschali, sy’n wreiddiol o Ddinas Powys, wedi treulio rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn yn byw dramor, gan gynnwys Dubai lle bu’n byw am y 18 mlynedd diwethaf.
Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf ym mis Ebrill 2020, roedd yn byw gyda’i meibion yn Dubai ar ei phen ei hun, gan nad oedd ei gŵr yn gallu dychwelyd o daith fusnes i Lundain am dri mis. Penderfynodd Cerys ddechrau dysgu Cymraeg er mwyn tynnu ei sylw oddi ar y sefyllfa.
Pedwar mis ar ddeg yn ddiweddarach, mae hi bellach yn siarad Cymraeg yn hyderus, gan ei bod wedi manteisio ar bob cyfle i ddysgu a mwynhau’r iaith.
Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf ym mis Ebrill 2020, roedd yn byw gyda’i meibion yn Dubai ar ei phen ei hun, gan nad oedd ei gŵr yn gallu dychwelyd o daith fusnes i Lundain am dri mis. Penderfynodd Cerys ddechrau dysgu Cymraeg er mwyn tynnu ei sylw oddi ar y sefyllfa.
Pedwar mis ar ddeg yn ddiweddarach, mae hi bellach yn siarad Cymraeg yn hyderus, gan ei bod wedi manteisio ar bob cyfle i ddysgu a mwynhau’r iaith.
Pan yn blentyn, mi wnaeth Cerys fynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, sef Ysgol yr Eglwys Sant Andrew yn Ninas Powys ac Ysgol Gyfun St Cyres ym Mhenarth. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn yr ysgol uwchradd, ond pan fu rhaid iddi ddewis dwy iaith i’w hastudio ymhellach, dewisodd Almaeneg a Ffrangeg.
Yn ôl Cerys; ‘‘Ar y pryd, ro’n i’n ystyried y Gymraeg yn iaith hen ffasiwn, a fyddai’n amherthnasol i’r dyfodol oedd gen i mewn golwg yn ninasoedd llachar Paris a Berlin. Felly gwnes i roi’r gorau i’r Gymraeg. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, gwnes i ddifaru gwneud hyn, ac aeth ugain mlynedd arall heibio cyn i mi wneud unrhywbeth ynglŷn ag e!’’
Does gan Cerys ddim cysylltiadau teuluol â’r Gymraeg ar wahân i’w hen nain ar ochr ei mam. Mae hi o’r farn bod ei rhieni wedi ymbellhau’n fwriadol oddi wrth yr iaith ar ôl priodi ac ymgartrefu yng Nghaerdydd.
Yn ôl Cerys; ‘‘Mae mam yn wreiddiol o Donypandy a fy nhad o Faesteg ac roedden nhw, fel eraill o’u cenhedlaeth, yn ymdrechu i greu bywyd gwell iddynt eu hunain – dw i ddim yn meddwl fod yr iaith Gymraeg yn berthnasol i’r bywyd newydd yma.’’
Cafodd Cerys ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg trwy ddilyn gwersi byrion gafodd eu darlledu ar dudalen Facebook y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Ers hynny, mae Cerys wedi mynychu nifer o ddosbarthiadau rhithiol sy’n cael eu cynnig gan ddarparwyr cyrsiau’r Ganolfan.
Fel yr eglura Cerys; ‘‘Gwnes i ddechrau gwersi ffurfiol gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, un o ddarparwyr y Ganolfan. Dw i’n cofio eistedd wrth y cyfrifiadur yn aros i’r tiwtor alw… roedd Zoom a Teams yn gwbl anghyfarwydd i mi! Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r rhaglenni yma bellach yn ail natur i mi.
‘‘A bod yn onest, dw i wedi mynychu cyrsiau gyda sawl darparwr yn ne Cymru – cwrs dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, a chwrs arall gyda Dysgu Cymraeg Gwent a nawr dw i’n dilyn cwrs lefel Uwch i siaradwyr profiadol, gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg.’’
Mae Cerys yn gobeithio dychwelyd i Gymru wedi i’w mab ieuengaf orffen ysgol ymhen pum mlynedd ac mae hi’n edrych ymlaen at ddefnyddio’r iaith yn ei mamwlad.
Yn ôl Cerys; ‘‘Dw i wedi treulio rhan fwyaf o fy mywyd yn byw mewn gwledydd tramor (Yr Almaen pan o’n i’n fyfyrwraig, yna Gwlad Belg, Dubai ac yn ôl a blaen i Gyprus). Dw i wrth fy modd yn byw bywyd trwy iaith dramor, gan weld y byd trwy lygaid gwahanol.
‘‘Dw i’n teimlo’n ffodus mod i wedi dysgu Cymraeg a phan fydda i’n dychwelyd adref, bydd pobl yn gallu ynganu fy enw yn gywir. Bydd defnyddio llai o fy mamiaith, Saesneg, yn rhoi pleser i mi ac yn gwneud y byd o wahaniaeth.
‘‘Ychydig iawn o hanes a diwylliant Cymru wnes i ddysgu pan o’n i yn yr ysgol, felly mae gen i gymaint i’w ddysgu - mae hyd yn oed y personoliaethau teledu a radio yn newydd i mi. Felly dw i’n edrych ymlaen at ddysgu mwy amdanynt.’’