Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ciao! Colleen ag Owain

Ciao! Colleen ag Owain

Mae cyfres newydd wedi dechrau ar S4C o’r enw Ciao! Colleen ag Owain.   

Colleen Ramsey ac Owain Wyn Evans sy’n cyflwyno’r gyfres – maen nhw’n mynd ar daith o amgylch yr Eidal. 

Mae Owain yn hoffi ffasiwn ac adeiladau’r Eidal, tra mae Colleen yn hoffi’r wlad a’r bwyd, ar ôl byw yno am ddwy flynedd a hanner, pan oedd ei gŵr, Aaron Ramsey yn chwarae pêl-droed i Juventus. 

Yma, ’dyn ni’n holi Colleen am y rhaglen a llawer mwy… 

Sut brofiad oedd gwneud y gyfres? 

Ro’n i ychydig yn ofnus i ddechrau, ond ro’n i mewn dwylo da gyda Owain.  Cawson ni lawer o hwyl a dod i adnabod ein gilydd yn dda.   

Oes gen ti hoff le yn yr Eidal? 

Fy hoff le yn yr Eidal yw Sardinia, ond dw i hefyd yn hoffi Lucca, a Turin oherwydd ro’n i’n byw yno gyda’r teulu. 

Beth oeddet ti’n ei hoffi am fyw yn yr Eidal? 

Yn amlwg, dw i'n caru'r bwyd, ond roedd y bobl yn garedig ac mae'r tywydd yn hyfryd.  

Beth ti’n hoffi fwyaf, pitsa neu basta? 

⁠Pitsa!  Does dim gwell na phitsa Eidalaidd ffres a chynnes. 

Sut brofiad oedd dysgu Eidaleg? 

Mae dysgu'r gramadeg yn hawdd – ond mae angen hyder i'w siarad o ddydd i ddydd gyda phobl eraill.  

Wyt ti’n hoffi dysgu ieithoedd? 

⁠Ydw, dw i eisiau dysgu mwy o ieithoedd.  

Unrhyw gyngor i bobl sy eisiau dysgu iaith newydd? 

Peidiwch â phoeni am wneud camgymeriadau.  Mae angen i chi ymarfer trwy siarad cymaint â phosibl. 

Pwy sy’n coginio yn eich tŷ chi? 

Fi a fi yn unig! 

Pa brosiectau sy ar y gweill yn 2026? 

⁠Llawer o goginio!  Hoffwn i wneud mwy o bodlediadau a gwaith teledu.