Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Clwb sgwrsio Dysgu Cymraeg i bobl ifanc ardal Abertawe

Clwb sgwrsio Dysgu Cymraeg i bobl ifanc ardal Abertawe

Mae Jonathan Davies, sy’n wreiddiol o Gasllwchwr ger Abertawe, yn diwtor Dysgu Cymraeg. Dysgodd Jonathan ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, ond ail-gydiodd yn yr iaith yn 2020, yn ystod y cyfnod clo.

Erbyn 2022, roedd Jonathan yn dysgu ar Lefel Uwch ac yn Hydref 2022, dechreuodd weithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Yn ystod y cyfnod yma, roedd Jonathan yn byw yn Llundain ac yn dysgu ei ddosbarthiadau ar-lein. Ond, symudodd yn ôl i Abertawe i fyw ym mis Gorffennaf 2024. 

Yn ogystal â gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg, mae Jonathan yn astudio PhD llawn amser ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio ar brosiect sy’n edrych ar addysg Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn ne Cymru.

Eleni, mae Jonathan wedi cychwyn clwb sgwrsio Dysgu Cymraeg i bobl ifanc ardal Abertawe. 

Dewch i ni glywed mwy o’i hanes.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg i bobol ifanc?

Y pleser mwyaf o addysgu pobl ifanc yw gweld eu hagwedd at y Gymraeg yn newid.

Mae llawer ohonyn nhw'n ymuno â'r cwrs yn credu nad ydyn nhw'n gallu dysgu Cymraeg ar ôl methu â gwneud hynny yn yr ysgol. Ar ôl cwpl o wythnosau, maen nhw’n credu y gallan nhw ddysgu Cymraeg ac yn dweud faint maen nhw'n mwynhau, a pha mor gyflym, maen nhw'n dysgu!

Dw i hefyd yn mwynhau cynnwys diwylliant poblogaidd yn fy ngwersi i'w gwneud yn hwyl i'r dysgwyr, ac i fi!

Pam cychwyn y clwb sgwrsio ar gyfer pobl ifanc? 

Dechreuais i grŵp newydd i bobl ifanc ym mis Tachwedd 2024 gan eu bod nhw eisiau mwy o gyfleoedd i ymarfer y Gymraeg. Dywedon nhw fod llawer o’r gweithgareddau cefnogi dysgwyr yn dueddol o ddigwydd yn ystod y dydd tra bod nhw yn y brifysgol neu’n gweithio.

Hefyd, dywedon nhw eu bod nhw eisiau gweithgaredd sy’n digwydd gyda’r nos neu ar y penwythnos, lle roedd cyfle iddynt siarad Cymraeg gyda phobl yn yr un oedran â nhw.

Felly, penderfynais i y dylwn i ddechrau grŵp ar eu cyfer er mwyn rhoi cyfle iddynt ymarfer eu Cymraeg!

Beth yw dy obeithion i'r dyfodol ar gyfer y clwb?

’Dyn ni’n agosáu at ddiwedd cyfnod arbrofol y grŵp ond dw i’n gobeithio parhau gyda’r sesiynau sgwrsio unwaith y mis er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw ymarfer y Gymraeg yn gyson.

Dw i’n gobeithio gallu tyfu’r grŵp i greu cymuned o ddysgwyr ifanc ac wedyn bydden ni’n gallu cwrdd yn amlach gan gynnal nosweithiau a gweithgareddau lle maen nhw’n gallu ymarfer y Gymraeg wrth wneud pethau eraill megis taith sinema, noson golff gwirion, mynd i gigs Gymraeg ac yn y blaen.

Beth yw'r peth gorau am fod yn diwtor?

Mae bod yn diwtor Dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn heriol, gan fy helpu i ddatblygu fy Nghymraeg fy hun. Mae’n cynnig cyfle i rannu’r iaith â phobl eraill a'u harwain ar eu taith ddysgu. Mae’r profiad yn ysbrydoledig ac yn werthfawr bob cam o’r ffordd.