Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Creu siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd o’r iaith – cyfraniad cynyddol y sector dysgu Cymraeg i oedolion

Creu siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd o’r iaith –  cyfraniad cynyddol y sector dysgu Cymraeg i oedolion

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi croesawu adroddiad pum mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, sy’n amlinellu’n glir y camau sydd eu hangen i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg i’r dyfodol.

Fel partner allweddol i’r Comisiynydd, mae’r Ganolfan yn barod yn cyfrannu at feysydd blaenoriaeth yr adroddiad, gan sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gwreiddio y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth – mewn cymunedau, gweithleoedd a bywyd pob dydd.

Dros y degawd diwethaf, mae’r Ganolfan wedi trawsnewid y sector Dysgu Cymraeg i oedolion. Mae wedi arwain ar gynlluniau newydd ar gyfer cymunedau, gweithluoedd, pobl ifanc a theuluoedd, a gwelwyd twf sylweddol yn y niferoedd sy’n dysgu Cymraeg.

Un o’i datblygiadau diweddaraf yw’r Rhaglen Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer y Gweithlu Addysg, gan gynnwys Gofal ac Addysg Plant Blynyddoedd Cynnar.  Mae’r gwaith yma yn ganolog i gynyddu capasiti ieithyddol y sector, a gwireddu amcanion Deddf y Gymraeg ac Addysg.

Mae cynlluniau eraill y Ganolfan yn cyfrannu’n uniongyrchol at greu gweithleoedd sy’n cefnogi’r Gymraeg.  Ers 2018, mae dros 30,000 o weithwyr a 2,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn ei chynlluniau Dysgu Cymraeg.  Mae Estyn wedi canmol dull strategol ac effeithiol y Ganolfan o weithio, ac wedi ei galw’n “un o gonglfeini mentrau cynllunio ieithyddol yn y gweithle” [Adroddiad Estyn 2025].

Mae’r Ganolfan yn cyd-gynllunio’n strategol ac yn fwriadol gyda arweinwyr sectorau allweddol i ddarparu cefnogaeth glir, ymarferol sy’n cynyddu defnydd o’r Gymraeg.  Mae llwyddiant rhaglenni wedi eu teilwra ar gyfer sectorau allweddol, megis Iechyd a Gofal, yn dangos yn glir sut y gellir creu peuoedd ieithyddol newydd.

Mae pobl ifanc yn flaenoriaeth arall i’r Ganolfan.  Mae cyrsiau am ddim ar gael i bobl 16-24 oed, ac mae’r ddarpariaeth yma yn gynyddol boblogaidd.  Trwy gyrsiau pwrpasol a phartneriaethau strategol, mae’r Ganolfan yn denu mwy o bobl ifanc at y Gymraeg.  Mae cynlluniau cyffrous ar y gweill yn y byd chwaraeon i ymestyn ymhellach y cyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith.

Wrth i Gymru edrych at y cyfnod nesaf – gan gynnwys etholiadau’r Senedd – mae cyfraniad y Ganolfan yn parhau’n hollbwysig.  Mae’r Ganolfan yn edrych ymlaen at groesawu a chefnogi pobl o bob cefndir i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.