Yn dilyn marwolaeth y gwleidydd a chyn Gomisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, o ganser yn 2022, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac elusen Macmillan wedi derbyn nawdd er cof amdano i greu pecyn o adnoddau Dysgu Cymraeg.
Bydd y pecyn yn cynnwys cwrs hunan-astudio byr, sy’n cyflwyno geiriau ac ymadroddion addas i weithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, a chwrs preswyl Dysgu Cymraeg er mwyn codi hyder staff.
Yn ôl Llinos Roberts, gweddw Aled Roberts, “Roedd Aled wedi dechrau ar y gwaith o drafod pwysigrwydd y Gymraeg gyda Macmillan yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Gymraeg.
“Mi gawsom ni wedyn brofiad personol o bwysigrwydd y Gymraeg pan oedd Aled ei hun yn wael – iddo ef ac i ninnau. Roeddem yn ymlacio mwy pan oedd nyrs neu ddoctor yn siarad Cymraeg, ac ychydig o straen yn cael ei dynnu o sefyllfa anodd.
“Felly roedd cynnig pecyn Dysgu Cymraeg fyddai’n galluogi mwy o weithwyr i siarad Cymraeg gyda chleifion ar ddiwedd eu hoes yn ddewis naturiol i ni.
"Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at y gronfa hon. Mae’n cynnwys rhoddion hael yn dilyn marwolaeth Aled, yn ogystal ag arian gafodd ei gasglu gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a chôr Johns’ Boys. Diolch i chi gyd.”
Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Roedd y Gymraeg yn agos iawn at galon Aled ac fe fu’n ymgyrchu’n ddiwyd dros yr iaith – wrth ei waith ond hefyd yn ei ardal enedigol oedd mor bwysig iddo.
“Mae’r gronfa hon wedi ein galluogi ni i greu pecyn Dysgu Cymraeg, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer gweithwyr gofal lliniarol a gofal diwedd oes, fel y gallan nhw gynnig geiriau o gysur i gleifion a’u teuluoedd ar amser anodd.
“Byddwn hefyd yn cynnig cwrs codi hyder preswyl, blynyddol yn Nant Gwrtheyrn – eto, wedi ei deilwra yn arbennig ar gyfer y maes gofal lliniarol a gofal diwedd oes.”
Bydd tlws yn cael ei roi, er cof am Aled Roberts, i berson sy’n gwirfoddoli yn y sector Dysgu Cymraeg. Bydd yn cael ei gyflwyno mewn digwyddiad gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Nghaerdydd ar 14 Mai 2024.