Bydd cyfle i ddysgwyr y Gymraeg gefnogi’r Urdd, trwy gyfrannu at waith y mudiad yn ystod digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ar 19-20 Chwefror, cynhelir ‘Llangrannog Dros Nos’, digwyddiad rhithiol ar gyfer dysgwyr a’u teuluoedd sydd eleni yn cymryd lle’r ‘Penwythnos Cymraeg i’r Teulu’ poblogaidd, sydd fel arfer yn cael ei gynnal yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog.
Bydd gwahanol weithgareddau ar gael, gan gynnwys celf a chrefft, coginio, cwis, adloniant a gweithdy drama gan Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r digwyddiad am ddim – ond bydd cyfle i’r dysgwyr sy’n cymryd rhan gyfrannu at yr Urdd trwy dudalen Just Giving arbennig.
Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal bore coffi cenedlaethol rhithiol ar gyfer dysgwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi am 10.00am. Bydd cyflwyniad ar waith yr Urdd ar ddechrau’r digwyddiad rhad ac am ddim yma, gyda chyfle i ddysgwyr wneud cyfraniad gwirfoddol i’r Urdd. Y cyflwynydd Nia Parry yw’r gwestai gwadd.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“Fel arfer mae’r Ganolfan yn cydweithio’n agos gyda’r Urdd i gynnal digwyddiadau i ddysgwyr yng ngwersylloedd Llangrannog a Glan-llyn. Mae’r digwyddiadau poblogaidd hyn yn rhoi cyfle i’n dysgwyr fwynhau defnyddio’u Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Oherwydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus, nid yw’n bosib eu cynnal, ond ’dyn ni’n falch o gynnig arlwy rithiol yn eu lle, fydd yn cyfleu ysbryd hwyliog y digwyddiadau ‘go iawn’.
“’Dyn ni’n ymwybodol bod yr Urdd yn enwedig yn wynebu heriau mawr yn sgil yr argyfwng iechyd, a gan fod ein dysgwyr wedi elwa’n fawr o’r bartneriaeth rhwng y Ganolfan a’r Urdd, roedden ni’n awyddus i roi cyfle iddyn nhw gefnogi’r mudiad ar yr adeg yma.”
Meddai Ross McFarlane o Sir Benfro, sydd fel arfer yn mynychu’r ‘Penwythnos Cymraeg i’r Teulu’ yn Llangrannog, gyda’i wraig, Meg, a’u tri o blant:
“’Dyn ni wedi bod i Langrannog gyda’r tri o blant, tair gwaith. ’Dyn ni i gyd bob tro yn edrych ymlaen at fynd. Mae rhywbeth i bawb yno ac mae’n teimlo mor bant o bobman, saff a chartrefol. ’Dyn ni’n gweld ei eisiau eleni! ‘Dyn ni’n falch o’r cyfle i gefnogi’r Urdd.”
Fel cymaint o sefydliadau ac elusennau eraill ledled y wlad, rydym wedi’n taro’n galed gan effeithiau’r pandemig. Hoffwn ddiolch i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, eu dysgwyr a’u teuluoedd am ddangos cystal cefnogaeth i’r Urdd. Rydym wedi cydweithio ar brosiectau a digwyddiadau ers blynyddoedd ond rydym yn gwerthfawrogi eu cyfeillgarwch nawr yn fwy nag erioed.
Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd