Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cylchgrawn Cara

Cylchgrawn Cara

Yma, ’dyn ni’n holi Meinir ac Efa, mam a merch sydd y tu ôl i gylchgrawn Cara.   

Cafodd y cylchgrawn ei sefydlu yn 2019, er mwyn rhoi llwyfan a llais i waith menywod Cymru.  

Maen nhw wedi cyhoeddi llyfrau hefyd, a bydd eu cyfrol ddiweddaraf, Man Draw, yn cael ei thrafod mewn digwyddiad arbennig yn ystod Gŵyl Amdani y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 5 Mawrth. 

Dewch i ddysgu mwy am gynnwys Cara, a’r broses o greu’r cylchgrawn… 

O ble ddaeth y syniad i greu cylchgrawn Cara? 

Ro’n i eisiau creu cylchgrawn i fenywod, gan fenywod, yn trafod pynciau sy’n addas iddyn nhw.  Roedd bwlch yn y farchnad ar gyfer cylchgrawn Cymraeg o’r fath, felly penderfynon ni fynd amdani! 

Beth yw’r hanes y tu ôl i’r teitl? 

Ro’n i’n chwilio am enw byr, hawdd i’w ddweud.  Enw merch ydy Cara, ac mae hefyd yn golygu cariad.  Yn Sbaeneg, mae’n golygu wyneb, sy’n addas gan fod wyneb merch ar y clawr fel arfer. 

Sut brofiad yw cydweithio ar y cylchgrawn?  

Mae’n brofiad arbennig iawn.  Meinir sy’n gofalu am y gwaith o ddydd i ddydd, ond ’dyn ni’n dwy yn golygu ac yn prawf ddarllen y cylchgrawn, cyn mynd i brint.  ’Dyn ni hefyd yn ysgrifennu rhai o’r erthyglau a’r golofn olygyddol.  

Sut mae rhifyn yn cael ei gynhyrchu? 

Mae tua 25 o erthyglau ym mhob rhifyn, a ’dyn ni’n cyhoeddi tri chylchgrawn y flwyddyn.  Diolch i gyfranwyr rheolaidd, mae’r broses yn un brysur ond pleserus – darllen, golygu, dod o hyd i luniau, a phrawf ddarllen sawl gwaith cyn argraffu. 

Sut dych chi’n dewis y themâu a’r cynnwys ar gyfer pob rhifyn? 

Mae rhai erthyglau rheolaidd yn y cylchgrawn, fel Cymraes Dramor, Merched Crefftus, Merched mewn Hanes, Steilio Cartref a Materion Cyfoes.  Yn ogystal â hynny, mae rhai am deithio, ffasiwn, bwyd a diod, iechyd a lles yn rhan ganolog o Cara.  ’Dyn ni hefyd yn cynnwys erthyglau sy’n cyd-fynd â’r tymhorau.  

Pa erthygl neu rifyn o Cara sydd fwyaf arbennig i chi, a pham? 

Pob un!  Mae’n deimlad cyffrous pan mae’r erthyglau’n cyrraedd dros e-bost, ac wrth dderbyn y copïau o’r wasg.  ’Dyn ni hefyd wedi cyhoeddi tair cyfrol, Adref (2020), Cara dy hun drwy’r Newid mawr (2023) a Man Draw (2025).  

Oes cynnwys i ddysgwyr? 

Oes, mae Cymraes Newydd yn rhoi sylw i fenywod sy’n dysgu Cymraeg.  Nid oes gormod o destun ar bob tudalen, ac mae geirfa Saesneg yn cael ei chynnwys pan fo angen.  Os oes stori gyda chi am eich taith yn dysgu’r iaith, cysylltwch - cylchgrawncara@gmail.com   

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ddysgwyr sy’n awyddus i ddarllen mwy yn Gymraeg? 

Ewch amdani!  Mae Cara yn berffaith i ddysgwyr - dych chi’n gallu darllen un erthygl neu ddwy ar y tro, gyda geiriadur wrth law, os oes angen. 

Beth nesaf i Cara? 

Eleni ’dyn ni’n cynnal sesiwn yng Ngŵyl Lên Llandeilo, a byddwn ni’n trefnu Ffair Fai Cara yn Aberystwyth, ddydd Sadwrn 2 Mai.  Efallai y bydd stondin gan Cara yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ogystal ag ambell ffair Nadolig.