
Mae Faith Hammond yn byw yn Abercarn, Cyngor Bwrdeistref Caerffili, gyda’i gŵr, Gethin a mab, Gideon.
Ymunodd hi â chynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar gyfer rhieni a gofalwyr, Cymraeg yn y Cartref, yn 2023. Mae erbyn hyn yn dilyn cwrs pellach gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu ar ran y Ganolfan gan Goleg Gwent.
Dyma ychydig o’i hanes:“Pan wnaethon ni benderfynu anfon ein plentyn i ysgol Gymraeg, ro’n i’n nerfus iawn gan fy mod i’n dod o Loegr ac er fy mod i wedi bod yn byw yng Nghymru ers 2009, do’n i heb gael cyfle i ddysgu’r iaith.
“Ymunais i â chynllun Cymraeg yn y Cartref yn fuan ar ôl i fy mab ddechrau’r ysgol feithrin yn 2023, ac mae wedi bod yn wych. Mae cael mynediad at arbenigedd y tiwtor, Liz, a’r tîm, a chael dysgu Cymraeg mewn grŵp yn benodol ar gyfer rhieni, wedi bod yn ardderchog.
“’Dyn ni’n dysgu pethau syml, allweddol yn ogystal â brawddegau y gallwn ni eu defnyddio i gychwyn sgwrs neu siarad gyda’n plant, am y pethau maen nhw’n eu dysgu yn yr ysgol.
“’Dyn ni wedi creu cymuned glos, ac mae dysgu gyda’n gilydd yn llawer o hwyl.
“Mae pawb mor groesawgar, a ’dyn ni i gyd yn helpu ein gilydd. Mae cymysgedd gwych o rieni a neiniau a theidiau ac amrywiaeth o alluoedd; dw i bob amser yn edrych ymlaen at ein sesiynau.
“Ces i fy ysbrydoli gymaint, ac es i mlaen i ddilyn cwrs Mynediad gyda’r nos. Dw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael swydd mewn ysgol feithrin Gymraeg, yn siarad Cymraeg bob dydd. Faswn i byth wedi cael y cyfle hwn heb gynllun Cymraeg yn y Cartref.
“Pan dw i’n meddwl cyn lleied o Gymraeg oedd gen i yn 2023, a faint dw i’n gwybod nawr, mae’n wych.
“Byddwn i’n argymell y sesiynau i unrhyw un sydd ddim yn siarad Cymraeg ac eisiau rhoi’r anrheg goriau erioed i’w plentyn – sef bod yn ddwyieithog. Mae’n antur enfawr sydd werth ei chymryd!”