Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cynllun Eisteddfod

Cynllun Eisteddfod
Disgrifiad llun: Un o ddigwyddiadau'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, o’r chwith i’r dde: Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru; Mark Adey, Cadeirydd Pwyllgor Maes D; Isabella Colby Browne, sydd wedi dysgu Cymraeg ar gyrsiau’r Ganolfan; Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac Emlyn Dole, Cadeirydd Bwrdd Cwmni’r Ganolfan.

 

Cynllun newydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg
ar gyfer ardaloedd sy’n croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi cynllun newydd i ddenu a chefnogi dysgwyr a siaradwyr newydd y Gymraeg mewn ardaloedd sy’n croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd y cynllun yn atgyfnerthu’r hyn sydd eisoes yn cael ei wneud mewn ardaloedd sy’n croesawu’r Eisteddfod, gyda chyfleoedd amrywiol, ychwanegol i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. 

Yn barod mae darparwr y Ganolfan yn Rhondda Cynon Taf, Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru, wedi profi bwrlwm a phrysurdeb yn sgil cynnal yr eisteddfod yn yr ardal eleni. 

Bydd modd i Ddysgu Cymraeg Morgannwg elwa ar y diddordeb uwch yn yr ardal trwy wneud cais i’r cynllun i ddarparu cyrsiau, gweithdai a gweithgareddau Dysgu Cymraeg ychwanegol i ateb y galw dros y flwyddyn nesaf.

Yn yr un modd, bydd yn bosib i Goleg Cambria, sy’n trefnu Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, wneud cais i’r cynllun i gynnal darpariaeth ychwanegol wrth i Wrecsam baratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2025.

Daw’r cyhoeddiad am y cynllun newydd yn sgil llwyddiant Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, pan welwyd y nifer uchaf erioed, 45, yn ymgeisio am wobr Dysgwr y Flwyddyn, a Maes D, pentref y dysgwyr, dan ei sang drwy’r wythnos.

Roedd uchafbwyntiau eraill y Ganolfan yn ystod yr Eisteddfod yn cynnwys:

  • Lansio Cynllun Strategol Dysgu Cymraeg 2024-2026, gyda’r pwyslais ar ddenu cynulleidfaoedd newydd, a rhannu arbenigedd addysgeg iaith y Ganolfan.
  • Dros 100 o ddysgwyr a siaradwyr newydd lleol yn gwirfoddoli ym Maes D ac ar hyd a lled y maes.
  • Gweithdy Dysgu Cymraeg ar gyfer pobl ifanc yr ardal.

Yn ogystal â llwyddiant penodol Eisteddfod 2024, mae twf cyffredinol i’w weld yn y sector Dysgu Cymraeg, gyda bron i 17,000 o bobl yn cwblhau cyrsiau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn ystod 2022-2023, a galw cynyddol am gyrsiau.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae’r Eisteddfod yn ennyn diddordeb yn y Gymraeg pan fydd yn ymweld ag ardaloedd gwahanol, ac mae’r ymateb i Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni wedi bod yn hynod gadarnhaol.

“Bydd y cynllun newydd yn gyfle i ni gynyddu’r ddarpariaeth yn yr ardaloedd sy’n croesawu’r Eisteddfod, gyda hyd yn oed yn fwy o gyfleoedd i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.

“Yn dilyn holl fwrlwm Eisteddfod 2024, byddwn yn darparu mwy o gyfleoedd yn ardal Wrecsam, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â Choleg Cambria, a Chadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Llinos Roberts, sydd hefyd yn gyfrifol am ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain.”

Diwedd