Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyril Jones yn derbyn Tlws y Tiwtor am ei waith yn dysgu Cymraeg i oedolion

Cyril Jones yn derbyn Tlws y Tiwtor am ei waith  yn dysgu Cymraeg i oedolion

Cyhoeddwyd heddiw (Dydd Sadwrn, 3 Awst) yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf mai Cyril Jones, genedigol o Bennant, Ceredigion sydd wedi derbyn Tlws y Tiwtor 2024.

Mae’r Tlws yn cael ei roi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i diwtor sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Cychwynnodd Cyril ei yrfa fel athro mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi a chychwynnodd ddysgu Cymraeg i Oedolion ym Machynlleth yn 1971.

Bu’n gweithio fel Tiwtor/Drefnydd i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (W.E.A) yn sir Drefaldwyn ar ôl gadael Ysgol Bro Ddyfi yn 1982 ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n dysgu cyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Nghanolfan Iaith Gregynog.

Bu’n gweithio i Brifysgol De Cymru ers 2001, gan ddysgu cyrsiau ysgrifennu creadigol a chyfrannu at amryw o gyrsiau Dysgu Cymraeg dan adain darparwr y Ganolfan, Dysgu Cymraeg Morgannwg.  Ymhlith y cyrsiau hynny, mae dosbarthiadau Uwch a Gloywi ar gyfer staff y Brifysgol ac yn y gymuned.

Yn ôl Catherine Stephens, Pennaeth Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan: “Ar ran Dysgu Cymraeg Morgannwg, hoffem longyfarch Cyril ar dderbyn yr anrhydedd hon a diolch iddo am ei gyfraniad arbennig i’r maes.

“Dw i’n gwybod bod ei fyfyrwyr yn gwerthfawrogi ei gynllunio gofalus ar sail llenyddiaeth gyfoes sy’n eu galluogi i fanteisio ar eu creadigrwydd yn y Gymraeg.  Mae rhai o’r dysgwyr hyn wedi datblygu i fod yn awduron a beirdd creadigol hyderus eu hunain.

“Mae Cyril yn parhau i ysbrydoli’r dysgwyr i drafod ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn ei ddosbarthiadau ym Merthyr ac yn Llantrisant ac edrychwn ymlaen at weld ffrwyth eu hymdrechion yn yr Eisteddfod!”

tiwtor

Ychwanegodd Dr Angharad Lewis, sydd hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg yn y brifysgol, “Dyma diwtor sydd yn barod iawn i fynd y filltir ychwanegol dros ei ddysgwyr. Mae’n diwtor wrth reddf sy’n credu gydag argyhoeddiad bod angen creu pont rhwng byd y dysgwyr a byd y ‘pethe’ Cymraeg.  

Mae Cyril wrth ei fodd yn cyflwyno llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg gyfoes i’w ddysgwyr a’u meithrin i ysgrifennu trwy gyfrwng eu hail iaith.  Mae’r gydnabyddiaeth yn un haeddiannol ar ôl iddo fod yn dysgu ers hanner canrif ym maes Cymraeg i Oedolion.

Dywedodd Cyril: “Ystyriaf hi’n fraint fawr i dderbyn y Tlws hwn.  Ces bleser di ben draw yng nghwmni oedolion a dysgais innau lawer yn eu cwmni hefyd.  Rwy’n edrych ymlaen at barhau i wneud y gwaith pwysig hwn.”  

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae tiwtoriaid brwdfrydig ac ysbrydoledig wrth galon ein gwaith i gefnogi dysgwyr a chreu siaradwyr newydd, ac mae Cyril yn diwtor gwych sy’n gwbl haeddiannol o’r Tlws.  Llongyfarchiadau, Cyril, a diolch o galon am dy holl waith.”

Lluniau - Cyril Jones yn yr Eisteddfod a'r tlws.  Mae’r tlws eleni wedi ei greu gan grefftwr lleol, Lewis Price.  Mae’r llyfr, sydd wedi ei gerfio o bren, yn cynrychioli cariad Cyril at lenyddiaeth a phont Pontypridd mewn metel.