Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Darllen dros y ’Dolig

Darllen dros y ’Dolig

Chwilio am syniadau i ddefnyddio eich Cymraeg dros y Nadolig? Beth am ddarllen llyfr, neu gylchgrawn?

P’un ai dych chi ar ddechrau eich taith iaith, neu’n siaradwr newydd, mae darllen yn ffordd wych i ymarfer a mwynhau eich Cymraeg.

Cyfres Amdani

Mae llyfrau cyfres Amdani wedi’u teilwra ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r llyfrau ar gael ar bedair lefel, sef Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, ac yn defnyddio geirfa a phatrymau iaith sy’n addas ar gyfer y lefelau gwahanol.

Mae’r gyfres yn cynnwys dros 40 teitl – o nofelau a storïau byrion i gofiannau a llyfrau ffeithiol, mae rhywbeth i bawb!

I weld yr holl lyfrau sy ar gael, dilynwch y ddolen nesaf: Cyfres Amdani

Mae’r llyfrau hefyd ar gael fel e-lyfrau, ac mae’n bosib prynu copi ar Ffolio Cymru. Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth: Ffolio Cymru

Lingo Newydd

Mae Lingo Newydd yn gylchgrawn ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae pob rhifyn yn cynnwys erthyglau, cyfweliadau, ac eitemau diddorol mewn iaith sy’n addas ar gyfer y lefelau gwahanol. Mae rhestr eirfa ar gael ar gyfer pob erthyl i’ch cefnogi.

Eisiau dysgu mwy? Dilynwch y ddolen nesaf: Lingo Newydd

Mwynhau darllen gyda’ch plant

Dych chi’n hoffi darllen llyfrau Cymraeg gyda’ch plant? Dych chi’n chwilio am lyfrau addas i’w darllen dros y Nadolig? Mae dewis gwych ar gael, a ’dyn ni wedi creu canllaw sy’n llawn syniadau ac argymhellion.

Dilynwch y ddolen i ddarllen y canllaw: Canllaw i ddarllen llyfrau Cymraeg gyda'ch plant

Mwynhewch!