Mae mwy nag ugain mil o bobl bellach yn dysgu Cymraeg, yn ôl data newydd a gyhoeddwyd heddiw (17 Mawrth 2026) gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cwblhaodd 20,445 o unigolion gyrsiau’r Ganolfan yn ystod 2024-2025 – y nifer uchaf erioed – sy’n gynnydd o 61% ers y cyhoeddiad data cyntaf yn 2017-2018. Mae’r ffigwr yn gynnydd o 12% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol (18,330 yn 2023-2024).
Mae’r twf yn adlewyrchu dull strategol y Ganolfan o ddarparu gwasanaethau Dysgu Cymraeg. Mae rhaglenni hyblyg wedi’u teilwra ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, ochr yn ochr â chyrsiau cymunedol helaeth, sy’n creu mwy o gyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith.
Mae pobl sy’n dysgu drwy’r gwaith bellach yn cynrychioli 39% o’r holl ddysgwyr (8,370), gan adlewyrchu’r ehangu sylweddol yn narpariaeth y Ganolfan ar gyfer sectorau allweddol megis Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweithlu Addysg.
Mae’r ffocws yma ar weithluoedd wedi arwain Estyn i ddisgrifio’r Ganolfan “yn un o gonglfeini mentrau cynllunio ieithyddol yn y gweithle.” Mae mwy o bobl yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gan gryfhau capasiti dwyieithog mewn gweithleoedd.
Mae’r mwyafrif o ddysgwyr, sef 17,350 o unigolion (84% o’r holl ddysgwyr a nododd eu dyddiad geni), rhwng 16 a 64 oed. Ar yr un pryd, mae cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg.
Yn ystod 2024-2025, roedd 4,110 o ddysgwyr rhwng 16 a 24 oed – cynnydd o 56% o’i gymharu â 2023-2024, a chynnydd sylweddol o 483% ers 2018-2019, pan gyhoeddodd y Ganolfan ddata am oedran dysgwyr am y tro cyntaf. Bryd hynny roedd 705 o ddysgwyr yn y grŵp oedran 16-24.
Yn ystod 2024-2025 gwnaeth dysgwyr hefyd ddwysáu eu dysgu drwy gwblhau 34,960 o weithgareddau dysgu, sef cynnydd o 12% o’i gymharu â 2023-2024.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
“’Dyn ni’n falch iawn o’r ffigurau diweddaraf hyn, sy’n dangos twf cyson a chadarn yn niferoedd y bobl sy’n dysgu Cymraeg.
“Mae’r ffigurau’n adlewyrchu cynllunio strategol y Ganolfan a’r ffordd mae’n defnyddio ei harbenigedd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd – yn enwedig yn y gweithle – sy’n cefnogi ein nod o greu mwy o siaradwyr Cymraeg.
“’Dyn ni’n arbennig o falch o weld cynnydd yn y bobl ifanc sy’n cwblhau ein cyrsiau. ’Dyn ni wedi datblygu darpariaeth benodol ar gyfer y grŵp oedran yma, ac mae ein partneriaethau â sefydliadau fel yr Urdd yn creu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ledled Cymru.
“’Dyn ni’n falch iawn o bob un o’n dysgwyr, sy’n frwdfrydig ac yn awyddus i ddefnyddio’u Cymraeg, ac o’r 500 a mwy o diwtoriaid ymroddedig sy’n eu cefnogi mewn cymunedau a gweithleoedd drwy’r wlad. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer mwy o bobl at y Gymraeg, a’u cefnogi ar hyd pob cam o’u taith iaith.”
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen nesaf: