
Bydd partneriaeth arbennig rhwng Clwb Pêl-droed Wrecsam a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael sylw yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yr wythnos hon.
Mewn amryw o ddigwyddiadau ar draws y maes, bydd y bartneriaeth – sy’n cynyddu sgiliau Cymraeg chwaraewr, staff a chefnogwyr y clwb – yn cael ei dathlu.
Gyda chefnogaeth ei darparwr lleol, Coleg Cambria, mae’r Ganolfan Genedlaethol wedi lleoli tiwtor, Huw Birkhead, i weithio llawn amser yn y STōK Cae Ras, ochr yn ochr ag Ymddiriedolaeth Gymuned Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Mae Huw yn gweithio gyda staff ar draws sawl adran, gan gynnwys darparu gwersi un-in-un a dysgu’r iaith i staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd. Mae e hefyd yn cefnogi Clwb Pêl-droed Merched Wrecsam gyda chyfweliadau Cymraeg yn y wasg ac ar y cyfryngau.
Mae cwrs blasu ar-lein ar gael i gefnogwyr, yn ogystal â mwy na 1,500 o adnoddau dysgu digidol, i gyd am ddim. Mae’r Clwb yn helpu cyfeirio cefnogwyr at y cyrsiau niferus sydd ar gael yn y gymuned, wyneb-yn-wyneb neu mewn dosbarthiadau rhithiol.
Meddai Huw Birkhead: “Dw i’n cefnogi Wrecsam ar hyd fy oes, ac felly mae gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg efo’r Clwb yn gwireddu breuddwyd. Mae’n bleser gweithio efo’r staff a chwaraewyr, a gweld eu hyder i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn codi, a defnydd o’r iaith yng nghymuned y clwb yn cynyddu hefyd.”
Meddai Jamie Edwards, Pennaeth y Gymuned yn Sefydliad CPD Wrecsam: “Mae’r bartneriaeth hon gyda’r Ganolfan a Choleg Cambria yn golygu llawer iawn i bawb yn Wrecsam CPD. Mae ein clwb yn falch o gynrychioli Wrecsam a Chymru ar lwyfan byd-eang, ac mae’r iaith Gymraeg yn rhan greiddiol o bwy dan ni ac o ble dan ni’n dod.
“Mae cael tiwtor sy’n gweithio o fewn y clwb yn gwneud gwahaniaeth mawr yn barod – mae’n wych clywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad o amgylch y maes ac yn ein cymuned bob dydd.”
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn arwain nifer o raglenni ym myd y campau, gan gynnwys partneriaethau â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.
Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Genedlaethol: “Mae angerdd a brwdfrydedd Clwb Pêl-droed Wrecsam, a’i berchnogion, Rob a Ryan, dros Wrecsam a Chymru yn glir i bawb, a rydyn ni wrth ein boddau i’w cefnogi gyda’r fenter yma. Mae ein rhaglen Dysgu Cymraeg, sydd wedi’i theilwra yn arbennig ar gyfer y Clwb, yn galluogi chwaraewyr, staff a chefnogwyr i gryfhau eu sgiliau Cymraeg, ac yn creu cyfleoedd newydd i bobl ddysgu a mwynhau’r iaith.”