Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod Ben

Dod i adnabod Ben

Daw Ben yn wreiddiol o Swydd Hertford ac mae’n byw yng Nghaerdydd. Gaethon ni sgwrs gyda Ben i ddysgu mwy am ei daith iaith...

Pwy wyt ti ac o ble wyt ti’n dod?
Ben dw i. Dw i’n dod o dref Hitchin yn Swydd Hertford.

Beth wyt ti’n ei wneud?
Dw i’n astudio gradd meistr mewn Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Cymru yng Nghaerdydd. Graddiais mewn Sbaeneg a Rwsieg o Brifysgol Bryste yn ystod yr haf.

Pam o’t ti eisiau dysgu Cymraeg?
Ro’n i’n gwybod fy mod i eisiau gweithio ym maes Gwleidyddiaeth yng Nghymru felly roedd dysgu’r iaith yn bwysig. Mae diddordeb gyda fi mewn ieithoedd, a dw i’n siarad pump iaith – Saesneg, Sbaeneg, Rwsieg, Catalaneg a Chymraeg.

Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg ers blwyddyn. Gwnes i ddechrau dysgu ar-lein, pedair awr yr wythnos, gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg. Es i ar gwrs haf Sylfaen yng Nghaerdydd a nawr, dw i’n dilyn cwrs Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd a chwrs Uwch 1 gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe.

Pryd wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Do’n i ddim yn cael llawer o gyfleoedd i ddefnyddio fy Nghymraeg pan o’n i’n byw ym Mryste. Ond, digwydd bod, roedd dau o fy narlithwyr yn siarad Cymraeg. Roedd un yn dysgu, a’r llall yn rhugl, felly ro’n i bob tro’n ceisio siarad Cymraeg â nhw.

Dw i newydd gyrraedd ’nôl o fy ngwyliau yng Nghaernarfon a ches i gyfle i ddefnyddio fy Nghymraeg yno.

Bob dydd Sul, dw i’n gwirfoddoli yng Nghastell Caerffili ac yn adrodd hanes y castell i ymwelwyr. Dw i bob amser yn dechrau’r sgwrs yn Gymraeg.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Cymuned yw’r peth gorau. Mae’r Gymraeg yn agor drysau. Mae pobl yn gwerthfawrogi pan dych chi’n siarad Cymraeg, hyd yn oed os dych chi’n siarad tipyn bach. 

Beth yw dy hoff air Cymraeg?
Rhugl (dw i’n meddwl ei fod yn swnio’n fendigedig). Dw i hefyd yn hoffi’r gair ‘dysgu’, achos mae’n golygu ‘teach’ a ‘learn’. 

Beth yw dy ddiddordebau?
Mae diddordeb gyda fi mewn gwleidyddiaeth, ieithoedd a theithio. Dw i’n hoffi teithio ac ymweld â llefydd yng Nghymru a Phrydain a dysgu mwy am yr hanes.

Beth yw dy gyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Defnyddiwch eich Cymraeg. Mae llawer o bobl yn poeni ac yn canolbwyntio ar gael gramadeg neu eiriau’n gywir, ond i fi, mae defnyddio’r iaith yn hollbwysig. Defnyddiwch bob cyfle i ymarfer a siarad yr iaith.

Dysgu Cymraeg – beth yw’r cam nesaf i ti?
Defnyddio ac ymarfer cymaint â phosibl - ceisio defnyddio’r iaith gartref, ac yn y gwaith. Dw i’n gobeithio bydda i’n defnyddio’r iaith yn fwy aml nawr fy mod i’n byw yng Nghaerdydd.