Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod Helen Duffee

Dod i adnabod Helen Duffee

Mae’r artist Helen Duffee yn gweithio fel Curadur Celf yn Gallery Gwyn, Aberaeron. Mae’r galeri yn cymryd rhan yn y cynllun ‘Hapus i Siarad’, sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddefnyddio a mwynhau eu Cymraeg wrth ymweld â siopau a busnesau lleol.

Dyma sgwrs gyda Helen...

Dwedwch ychydig o’ch hanes - pwy dych chi ac o ble dych chi’n dod?

Symudodd teulu fy nhad o Iwerddon i Lundain. Roedd fy mam yn dod o Ganolbarth Lloegr. Ro’n i’n byw yn Yr Alban am 10 mlynedd cyn symud i Lanbed, Ceredigion yn 1981.

Dwedwch fwy am eich taith yn dysgu Cymraeg.

Aeth fy mhlant i Ysgol Gynradd y Dderi, ble ddysgon nhw’r Gymraeg yn gyflym iawn. Cofrestrais ar gyrsiau dysgu Cymraeg gyda’r nos.

Dw i’n byw mewn cymuned Gymraeg, ac o ganlyniad, mae fy ynganu a sillafu wedi datblygu’n eithaf da. Dw i’n dysgu garddwriaeth organig a chelf yn yr ysgol leol, ac mae fy ngeirfa wedi gwella ac ymestyn, diolch i fy nisgyblion! 

Mae gen i barch mawr tuag at y Gymraeg a’r diwylliant. Ges i fy ysbrydoli ar ôl cwrdd â’r Athro Thomas Charles-Edwards, Coleg yr Iesu, Rhydychen pan gyflwynodd ‘Eiry Mynydd’ i fi, sef cerdd yn Llyfr Coch Hergest, llawysgrif Cymraeg o’r Oesoedd Canol. Mae’r gerdd wedi dylanwadu ar fy ngwaith fel artist.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Un o’r pethau gorau am ddysgu Cymraeg yw teimlo cysylltiad arbennig drwy rannu’r iaith. I unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg, mae siaradwyr Cymraeg bob amser yn eich annog a’ch cefnogi wrth i chi sgwrsio’n Gymraeg. 

Mae’r galeri yn rhan o’r cynllun ‘Hapus i Siarad’ – pam mae hyn yn bwysig i chi?

Mae mor bwysig gallu cyfarch ymwelwyr yn ddwyieithog, bob amser yn Gymraeg gyntaf, a bod mor groesawgar â phosibl, yn enwedig i ymwelwyr ac ysgolion a cholegau lleol.     

Sut dych chi’n defnyddio eich Cymraeg yn y galeri?

Dw i’n ffodus iawn i gael ffrind sy’n dda gyda ieithoedd, a ’dyn ni’n cael sgyrsiau diddorol iawn wrth gyfieithu ‘datganiadau artistiaid’ ar gyfer arddangosfeydd.

Dw i’n dechrau teimlo’n fwy hyderus wrth gyfieithu geiriau a thermau’n ymwneud â chelf, ac yn dod yn fwy cyfarwydd â phatrymau iaith.

Beth nesaf gyda dysgu Cymraeg?

Bydda i’n parhau i ddysgu yn fy rôl fel curadur yn Gallery Gwyn drwy siarad ag artistiaid Cymraeg sy’n arddangos yn y galeri, a thrwy gyfarch a helpu ymwelwyr. Bydda i’n parhau gyda’r gwaith o gyfieithu datganiadau artistiaid a helpu gyda chyhoeddusrwydd y galeri er mwyn sicrhau ein bod ni’n lleoliad cwbl ddwyieithog.

Mae’r cynllun ‘Hapus i Siarad’ yn bartneriaeth rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Dych chi’n gallu dod o hyd i ragor o wybodaeth, a gweld pa fusnesau lleol sy’n rhan o’r cynllun drwy ddilyn y ddolen nesaf: Hapus i Siarad | Y Mentrau Iaith

Dyma luniau o waith celf diweddar gan Helen.

Bloom & Blodau II - acrylic/collage on canvas

Bloom & Blodau II - acrylig/collage ar gynfas

Landscape II - collage on board

Landscape II - collage ar fwrdd

Gaia 2024 - acrylic/collage on a random object

Gaia 2024 - acrylig/collage ar wrthrych