Dod i adnabod Jason

Daw Jason Kilshaw o Gaer yn wreiddiol, ac mae wrth ei fodd â Chymru a’r iaith Gymraeg. Buon ni’n sgwrsio â Jason i ddysgu mwy am ei daith iaith.
Mae Jason yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dw i’n dysgu Cymraeg ers mis Hydref 2022.
Pam dysgu Cymraeg?
Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg ar ôl bod ar wyliau ym Mhwllheli, ac yn fuan iawn, mi wnes i syrthio mewn cariad efo’r iaith.
Wyt ti’n gweithio?
Dw i’n athro ysgol gynradd ym Manceinion ond yn y dyfodol, ’swn i’n licio gweithio mewn ysgol gynradd yng Nghymru.
Sut wyt ti’n dysgu?
Dw i’n dysgu Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Fel arfer, dw i’n mynd i’r Cwrs Haf, ond eleni, dw i’n gweithio yn yr ysgol felly dw i ddim yn medru mynd. Dw i’n licio mynd ar gyrsiau yn Nant Gwrtheyrn hefyd.
Lle a phryd wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n licio mynd i gyfarfod Cymraeg yng Nghaer bob mis, ac i’r Saith Seren, Canolfan Gymraeg yn Wrecsam. Dw i’n mynd ar gyrsiau yn Garth Newydd, Llanbed. Dw i’n mynd ar wyliau i Gaernarfon yn aml ers dechrau dysgu Cymraeg. Dw i’n licio siarad efo’r bobl leol yn y dafarn a’r siopau. Dw i wedi gneud ffrindiau da yna. Dw i’n caru Caernarfon, mae’n lle gwych.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg y tu allan i’r dosbarth?
Dw i’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Dw i’n caru Fleur de Lys, a Gwilym. Dw i’n caru’r gân ‘Dawnsia’ gan Fleur de Lys, mae’n wych iawn.
Dw i hefyd yn hoffi ysgrifennu. Ers Ionawr 2025, dw i wedi bod yn ysgrifennu colofn ar gyfer cylchgrawn Cara, cylchgrawn Cymraeg i fenywod. Mae gen i dair chwaer, a dw i’n angerddol am faterion cyfoes sy’n wynebu merched.
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dŵad i Wrecsam! Wyt ti’n mynd?
Yndw. Dw i’n mynd drwy’r wythnos, ac yn gwirfoddoli ym Maes D.
Be ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Ffrindiau. Dw i wedi gneud llawer o ffrindiau ers dechrau dysgu Cymraeg. Roedd yn anodd iawn yn y brifysgol achos ro’n i’n byw ac yn dysgu o adra. Ers dysgu Cymraeg, dw i wedi cyfarfod llawer o bobl hyfryd.
Mi ges i wobr Dysgwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr 2025 Coleg Cambria. Mae’n deimlad hyfryd iawn. Fy nhiwtor ydy Emma Burton – mae hi’n wych.
Be ydy dy gyngor i bobl eraill sy’n dysgu Cymraeg?
Trïwch. Mae pobl mor hapus i siarad efo pobl sy’n trio siarad Cymraeg. Does neb erioed wedi rhoi profiad negyddol i fi. Jyst trïwch, a pheidiwch â phoeni gormod.
Dysgu Cymraeg - be ydy’r cam nesaf i ti?
Dw i’n mynd ar gwrs yn y Bala ym mis Awst efo Stephen Rule, sef Doctor Cymraeg, ac mi fydda i’n dechrau cwrs Canolradd ym mis Medi.