Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod Michael Tang

Dod i adnabod Michael Tang

Dweda ychydig am dy hun...
Michael dw i. Dw i’n dod o’r Barri yn wreiddiol.

Wyt ti’n astudio neu’n gweithio? Beth wyt ti’n ei wneud?
Dw i’n gweithio fel Rhaglennydd Ystadegol i gwmni ymchwil cyffuriau.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Ro’n i eisiau cysylltu gyda fy hunaniaeth. Dysgais i dipyn bach o Gymraeg yn Ysgol Gynradd All Saints Church in Wales ac yn Ysgol Gyfun Bechgyn y Barri. Mae fy mhartner yn siarad Cymraeg ac ro’n i’n dechrau clywed mwy o Gymraeg yn fy ardal, felly dechreuais i fynd i ddosbarthiadau Dysgu Cymraeg.

Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Dw i wedi bod yn dysgu ers 2019. Dechreuais i ddysgu drwy ddilyn cwrs Mynediad 2 oherwydd bod gen i dipyn bach o Gymraeg ers bod yn yr ysgol. Dw i erbyn hyn yn dysgu ar-lein ar lefel Uwch.

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?
Dw i’n trio siarad a defnyddio fy Nghymraeg mor aml â phosib. Dw i’n mynd i gerddorfa ukulele unwaith yr wythnos. Mae dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yno ac mae’n gyfle gwych i glywed a chymysgu gyda phobl sy’n siarad yr iaith.

Beth yw’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Baswn i’n dweud cwrdd â dysgwyr eraill oherwydd eich bod chi’n mynd ar yr un daith ar yr un pryd. Mae’n grêt gweld dysgwyr eraill yn magu hyder yn yr iaith. Pan ddechreuais i, ro’n i’n poeni llawer am wneud camgymeriadau, ond erbyn hyn, dw i’n poeni llai ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio, ymarfer a siarad yr iaith gymaint â phosibl.

Beth yw dy ddiddordebau?
Yn amlwg, chwarae’r ukulele, a dw i hefyd yn canu gyda Chôr Meibion Hoyw De Cymru. Dw i’n mwynhau chwaraeon, fel rhedeg, a dw i newydd ymuno â chlwb gymnasteg. Dw i hefyd yn hoffi gwau, crosio, a gwneud dillad. Dw i wedi dilyn cyrsiau byr a gweithdai yn y gorffennol er mwyn dysgu sut i ddefnyddio peiriant gwnïo a gwneud sgertiau a dyngarîs. Mae’n deimlad braf gweld y darnau’n dod at ei gilydd i greu dilledyn.

Beth yw dy gyngor i bobl eraill sy eisiau dysgu Cymraeg?
Cymra dy amser. Paid poeni am wneud camgymeriadau. Trio yw’r peth pwysig. Dw i’n dysgu mwy a mwy bob dydd.

Dysgu Cymraeg – beth yw’r cam nesaf i ti?
Mae fy mhartner yn dweud y dylwn i geisio mynd ar y rhaglen deledu Am Dro!

Dw i eisiau cwrdd â mwy o bobl, a thaflu fy hun i sefyllfaoedd sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Mae’r dosbarthiadau’n grêt i gymysgu gyda dysgwyr eraill a dysgu am reolau iaith, ond dw i eisiau defnyddio’r iaith gyda phobl y tu allan i’r dosbarth. Mae mynd i’r gerddorfa yn helpu, ond baswn i’n hoffi gwneud mwy o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n bwysig gweld pobl o gefndiroedd gwahanol yn siarad yr iaith – dw i eisiau ysbrydoli pobl i ddysgu Cymraeg.