
Mae Eurgain Haf yn byw ym Mhontypridd ers bron i 20 mlynedd ond mae’n wreiddiol o Benisarwaun yn Eryri.
O ddydd i ddydd, mae Eurgain yn gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau Achub y Plant Cymru.
Mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant, ac enillodd ei nofel ddiweddaraf, Y Morfarch Arian, y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd.
Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu o safbwynt merch ifanc sy’n byw gyda anhwylder obsesiynol gorfodaethol (obsessive-compulsive disorder, ‘OCD’).
Cawson ni sgwrs gyda Eurgain...
Wyt ti wastad wedi mwynhau ysgrifennu?
Ydw. Ro’n i wrth fy modd yn ysgrifennu yn yr ysgol ac ro’n i’n hoffi cystadlu yn yr Eisteddfod fach yn ein pentref. Bues i’n lwcus iawn i ennill tlws y Prif Lenor sawl tro. Dw i’n ddiolchgar iawn i drefnwyr yr Eisteddfod bentref am roi'r hwb a’r hyder i mi barhau i ysgrifennu. Roedd fy athrawon Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Brynrefail sef Y Prifardd Esyllt Maelor a’r diweddar Mr Alwyn Pleming hefyd yn wych yn fy annog i ysgrifennu.
Ble wyt ti’n cael syniadau ar gyfer dy nofelau?
Mae pob math o bethau yn rhoi syniadau i mi - golygfeydd, gwylio rhaglenni teledu a gwrando ar y radio, ac weithiau clustfeinio ar sgyrsiau pobl wrth eistedd mewn caffi neu deithio ar y trên!
Mae cael adborth adeiladol a gwybod bod eraill wedi mwynhau darllen dy waith hefyd yn ysbrydoliaeth ac yn deimlad braf iawn. Yn yr un modd dw i hefyd yn croesawu beirniadaeth ar sut i wella fy ngwaith neu wneud pethau yn wahanol.
Pa adeg o'r dydd wyt ti fwyaf tebygol o ysgrifennu?
Dw i’n aderyn nos yn bendant! Mae olwynion creadigol fy ymennydd yn dechrau troi fel arfer wedi i’r teulu fynd i’r gwely ac weithiau bydda i’n ysgrifennu hyd yr oriau mân. Dw i hefyd wedi arbrofi gyda chodi yn gynnar iawn yn y bore, gyda’r wawr pan fydd pawb yn cysgu. Dw i’n credu bod patrwm yma - dwi’n dueddol o ysgrifennu pan fydd y tŷ yn dawel a bod gen i lonydd i feddwl!
Fedri di egluro beth ydy dy broses wrth ysgrifennu nofel?
Mi fydda i’n cnoi cil ar syniadau am amser hir, neu am flynyddoedd yn achos fy nofel, Y Morfarch Arian. Dw i’n cario ‘llyfr sgribyls’ o gwmpas efo fi ac yn ysgrifennu nodiadau yn hwnnw os bydd syniad yn dod i fy mhen. Bydda i wedyn yn mynd ymlaen i greu map meddwl ac i geisio cynllunio’r stori yn fanwl. Does dim byd yn waeth gen i na syllu ar sgrîn wag a ddim yn gwybod ble i ddechrau. Felly dw i’n hoffi cynllunio popeth yn fy mhen yn gyntaf ac ar ffurf nodiadau yn fy llyfr.
Beth yw dy gyngor i unrhyw un sy eisiau dechrau ysgrifennu?
Y cyngor gorau yw cystadlu mewn Eisteddfodau bach. Does neb yn eich adnabod gan eich bod yn cystadlu dan ffugenw, ac fe gewch feirniadaeth ar sut i wella eich gwaith gan awdur neu arbenigwr llenyddol. Ac efallai byddwch yn ddigon ffodus i ennill. Baswn i hefyd yn awgrymu i unrhyw un fynychu cyrsiau ysgrifennu yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn Llanystumdwy ger Cricieth.
Oes 'na lyfrau eraill ar y gweill?
Dw i wedi ysgrifennu sawl stori fer ar gyfer gwahanol gylchgronau ac mae gen i hefyd syniadau ar gyfer nofel arall a llyfrau i blant.
