Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dod i adnabod yr awdur - J. Richard Williams

Dod i adnabod yr awdur - J. Richard Williams

Mae J. Richard Williams yn dod o Rosgoch yng ngogledd Ynys Môn, ond mae’n byw yn Llangefni ers 50 mlynedd. Mae Richard yn awdur ac yn hoffi ysgrifennu llyfrau hanes.

Richard sy wedi ysgrifennu’r llyfr ‘Mwy o Arwyr Cymru’ ar lefel Uwch yng nghyfres Amdani.

Dyma ychydig mwy amdano...

Pryd ddechreuodd eich diddordeb mewn hanes?

Roedd fy nhad yn hanesydd, ac roedd yn ddylanwad mawr arna i.  Fo ddysgodd i mi fod hanes pobl yn bwysig.   D’on i ddim yn mwynhau Hanes yn yr ysgol uwchradd ond pan wnes i symud i Langefni, gwnes i ymuno â dosbarth Hanes gyda’r nos.  Gwilym Trefor Jones, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, oedd yn arwain y dosbarth, a gwnes i fwynhau’n fawr iawn.  Roedd Gwilym yn arbenigo yn hanes a daearyddiaeth Ynys Môn.

Pwy neu beth wnaeth eich annog i gyhoeddi eich llyfr cyntaf?

Darllenais am ferch o Fôn a aeth i Awstralia yn 1842, a llwyddais i gysylltu â’i theulu pell yn Tasmania.  Doedd dim llawer o neb yng Nghymru yn gwybod amdani, felly gwnes i ysgrifennu ei hanes.  Cafodd y gwaith ei gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ac ers hynny, dw i wedi cyhoeddi amryw o lyfrau hanes.

Beth fyddai eich cyngor i unrhyw un sy eisiau dechrau ysgrifennu llyfrau hanes / addysgol?

Fy nghyngor i fyddai i fynd amdani.  Mae hanes Cymru a’r diwylliant Cymreig yn lle da i gychwyn.  Mae angen gwneud gwaith ymchwil trylwyr. 

j richard williams

Rhaid cymryd pwyll efo’r sillafu a chael geiriadur a chanllawiau iaith J. Elwyn Hughes wrth law bob amser.  Dw i hefyd yn ei gweld hi’n bwysig siarad gyda awduron eraill a darllen eu gwaith.

Rhaid peidio digalonni os na fydd y wasg gyntaf eisiau argraffu eich gwaith - ceisiwch wasg arall.  Ac yn fwy pwysig, mae angen mwynhau’r gwaith a phopeth fydd yn deillio ohono. 

Oes 'na unrhyw lyfrau ar y gweill?

Na, does dim byd yn bendant ond fe hoffwn gyhoeddi llyfr am Oradour-sur-Glane, Ffrainc yn ystod yr Ail Ryfel Byd.