Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

“Does dim angen teithio i ddefnyddio fy iaith fy hun”

“Does dim angen teithio i ddefnyddio fy iaith fy hun”

Mae llyfrgellydd o Aberpennar wrth ei bodd yn defnyddio’r Gymraeg yn ei bywyd pob dydd, ar ôl dechrau dysgu’r iaith saith mlynedd yn ôl.

Mae Julia Ziomek, sy’n wreiddiol o Gwmbrân, wastad wedi hoffi ieithoedd ac fe ddysgodd Ffrangeg ac Almaeneg yn yr ysgol, a Sbaeneg fel oedolyn.  Ond, yn wahanol i’r ieithoedd hynny, mae’n dweud nad oes angen teithio i ddefnyddio ei hiaith ei hun, y Gymraeg.

Mae Julia yn gweithio yn Llyfrgell Aberpennar ers bron i 30 mlynedd, ac mae’n siarad yr iaith gyda’r bobl leol, grwpiau a phlant ysgol sy’n defnyddio gwasanaethau’r llyfrgell.

Mae’n mwynhau cerddoriaeth Gymraeg, ac mae wedi bod yn brysur dros y flwyddyn ddiwethaf yn mynychu digwyddiadau lleol i godi arian i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.  Mae Julia hefyd wedi cyfrannu erthyglau i’w phapur bro lleol, Clochdar.

Dechreuodd Julia ddysgu Cymraeg ar ôl i Gyngor Rhondda Cynon Taf annog staff i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.  Fe ddilynodd gwrs blasu byr a dechrau defnyddio ap Duolingo.  Yna, ymunodd â dosbarth yn y YMCA yn Aberpennar oedd yn cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd Julia ei geni â chyflwr Treacher-Collins, sydd wedi effeithio ar ei chlyw.  Mae’n defnyddio peiriant clyw arbennig o’r enw BAHA (Bone Anchored Hearing Aid), sy’n sownd yn ei phenglog ac sy’n trosglwyddo synau i’r glust fewnol.

Mae darllen wedi bod yn ffordd bwysig i Julia i gryfhau ei sgiliau Cymraeg, ac mae wedi mwynhau’r gyfres i ddysgwyr, ‘Amdani’, gyda nofelau ‘Blodwen Jones’ gan Bethan Gwanas, ymhlith ei ffefrynnau.

Meddai Julia: “Dw i’n hapus iawn yn fy ngwaith, does dim dau ddiwrnod yr un peth.  Mae llawer o gyrsiau yn cael eu cynnal yn y llyfrgell, sy’n dod â mwy a mwy o bobl mewn, a ’dyn ni mewn lleoliad da ar y stryd fawr yn Aberpennar.

“Mae dysgu Cymraeg wedi agor y drws ar lyfrau a cherddoriaeth Gymraeg, a dw i wedi gwneud ffrindiau newydd.  Dw i’n mwynhau siarad yr iaith â phobl newydd ac wedi mwynhau ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.

“Dw i hefyd yn edrych ymlaen at ddechrau fy nghwrs lefel Uwch cyn bo hir, a dw i’n annog pawb sy eisiau dysgu’r iaith i fynd amdani!”

Ychwanegodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Hoffwn longyfarch Julia ar ei thaith iaith – mae’n wych i glywed ei bod yn mwynhau ei chyrsiau ac yn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn ei bywyd pob dydd yn Aberpennar.

“Mae cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd wedi dechrau ym mhob rhan o Gymru yn ddiweddar, wyneb-yn-wyneb ac mewn dosbarthiadau rhithiol.  Mae croeso i bawb ddysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan ac mae modd dod o hyd i gyrsiau ar ein gwefan: www.dysgucymraeg.cymru