“Dw i eisiau archebu fy mwyd fy hun yn Gymraeg mewn caffi!”

Mae Kornelia Kennedy wedi ei geni a’i magu yng Ngwlad Pwyl ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae’n 26 oed ac yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Beth am ddod i’w hadnabod yn well?
Sut wnest ti glywed am y Gymraeg?
Dw i’n hanner Gwyddeles, felly ro’n i’n gwybod fod ‘na dipyn o ieithoedd Celtaidd, gan gynnwys y Gymraeg.
Ond, do’n i ddim yn gwybod ei bod mor wahanol i Wyddeleg yr Iwerddon. Does ’na ddim prinder o bobl yn siarad Cymraeg, ac mae llawer iawn o bobl yn dal i’w defnyddio yn eu bywydau bob dydd.
Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?
Pan wnes i symud i Gaerdydd, gwnes i ddechrau gweithio yn y sector gyhoeddus a gwnes i sylweddoli bod ’na gynlluniau i helpu staff ddysgu Cymraeg yn y gwaith. Gwnes i ddod o hyd i gyrsiau oedd am ddim i bobl ifanc 18 i 25 oed, a gwnes i ymuno â’r gwersi er mwyn gallu siarad Cymraeg yn y gwaith a gyda fy ffrindiau.
Oes ’na rywun arall o dy deulu yn dysgu Cymraeg?
Nac oes – ond mae fy mhartner yn Gymro.
Wyt ti’n cofio’r tro cyntaf i ti glywed rhywun yn siarad Cymraeg?
Dw i ddim yn cofio’r tro cyntaf i mi glywed y Gymraeg, ond dw i’n cofio mynd i gaffi yng ngogledd Cymru, a’r perchennog yn gofyn beth oedden ni eisiau yn Gymraeg.
Do’n i ddim yn gwybod beth i’w ddweud, a ro’n i’n teimlo drist nad o’n i’n gallu ateb yn Gymraeg. Llwyddodd fy mhartner i gael sgwrs syml ac archebu ei fwyd yn Gymraeg o’r gwersi oedd e wedi eu cael yn yr ysgol.
Ers hynny, dw i wedi sylwi ar lawer mwy o bobl yn sgwrsio’n Gymraeg – yn y gwaith, mewn caffi, neu allan yn y parc.
Sut mae’r gwersi’n mynd?
Maen nhw’n mynd yn dda iawn, diolch! Dw i’n mwynhau dysgu iaith newydd, a’r diwylliant o amgylch yr iaith.
Ac yn y dyfodol?
Dw i’n gobeithio gallu cynnal sgwrs syml yn Gymraeg fel mod i’n gallu archebu fy mwyd fy hun mewn caffi. Dw i’n gobeithio hefyd, gydag amser, y bydda i’n gallu siarad Cymraeg yn y gwaith a phan fydda i’n crwydro Cymru!