Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

“Dw i mor hapus fy mod i’n gallu sgwrsio’n Gymraeg”

“Dw i mor hapus fy mod i’n gallu sgwrsio’n Gymraeg”

Jonathan Lloyd o Wrecsam sy’n rhannu ei daith yn dysgu Cymraeg...

Mae Jonathan yn gweithio i Dîm Marchnata Prifysgol Wrecsam, ac yn dysgu’r Gymraeg yn y gwaith drwy raglen Cymraeg Gwaith ym Mhrifysgol Wrecsam o dan arweiniad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n edrych ymlaen at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â’r ardal ym mis Awst.

Fedri di ddweud mwy wrthon ni am dy daith iaith?   

Dysgais i Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Darland tan TGAU, ac yna astudio ar gyfer gradd Ffrangeg gyda’r Brifysgol Agored. Dydy fy nheulu i ddim yn siarad Cymraeg, felly Saesneg dw i’n ei siarad adref. Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy gynllun yn y gweithle ers 2021 a newydd orffen y cwrs Sylfaen.

Pan ddechreuais i weithio ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2020, sylweddolais bod y Gymraeg yn bwysig iawn, nid ar gyfer y swydd yn unig, ond oherwydd mai Cymro dw i, a dw i angen parhau â’r iaith, a datblygu fy Nghymraeg i.

Lle a phryd wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Dw i’n defnyddio’r Gymraeg llawer yn y gwaith. I fi, mae’n wych achos mae’n bwysig defnyddio’r iaith bob dydd, hyd yn oed os ydy hynny am bump neu 10 munud.

Dw i’n siarad efo pobl yn Gymraeg ar Teams a Whatsapp, ac yn e-bostio timoedd gwahanol yn Gymraeg. Dw i’n dechrau’r sgwrs yn Gymraeg â chydweithwyr yn y coridor hefyd.

Os dw i allan yn cymdeithasu ac yn clywed Cymraeg neu acen Gymraeg, dw i’n trio dechrau sgwrs yn Gymraeg a chwrdd â phobl sy’n siarad yr iaith.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dŵad i Wrecsam! Wyt ti’n mynd?

Ydw, dw i’n mynd i’r Eisteddfod. Dw i’n mynd i helpu fy nhiwtor, Teresa Davies, ym Maes D, pentref y dysgwyr, ar y dydd Sul cyntaf, a dw i’n cystadlu yn y grŵp llefaru efo llawer o staff y Brifysgol. Bydda i hefyd yn gwneud gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos.

Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?

Dw i bob amser wedi bod yn falch o fod yn Gymro. Mae’r Gymraeg yn rhan o fy hunaniaeth, ac mae gallu siarad a dysgu’r iaith yn atgyfnerthu’r teimlad hwnnw fel person o Gymru. I fi, mae’n bwysig fy mod i’n gallu siarad yr iaith.

Dw i isio deud diolch yn fawr i Elen Mai Nefydd (Pennaeth Darpariaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam) a Teresa, fy nhiwtor, am fy annog i ddefnyddio’r iaith. Maen nhw’n rhoi llawer o gyfleoedd i fi ymarfer a defnyddio’r Gymraeg i godi fy hyder.

Os fasai rhywun wedi deud wrtha i ddwy flynedd yn ôl y baswn i’n siarad Cymraeg ar Zoom, neu gyda phobl am 10 munud trwy’r Gymraeg yn unig, baswn i ddim wedi eu credu nhw! Dw i mor hapus fy mod i’n gallu sgwrsio’n Gymraeg.

Be ydy dy gyngor i bobl eraill sy’n dysgu Cymraeg?

Fy nghyngor i ydy trio defnyddio’r iaith bob dydd – boed hynny’n gwrando ar Radio Cymru, gwylio rhaglenni S4C, siarad â phobl, defnyddio Duolingo neu SSIW.  

Dysgu Cymraeg - be ydy’r cam nesaf i ti?

Mi fydda i’n dechrau cwrs Canolradd ym mis Medi.

Fel rhan o ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg, gwnaeth Jonathan gymryd rhan mewn fideo gyda’i diwtor, Teresa, yn sôn am ei brofiadau’n defnyddio’r Gymraeg. Dilynwch y ddolen nesaf i wylio’r fideo: Defnyddia dy Gymraeg - YouTube