Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach. 

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dwy yn dysgu’r Gymraeg ac yn dod yn diwtoriaid yn y Gogledd

Dwy yn dysgu’r Gymraeg ac yn dod yn diwtoriaid yn y Gogledd

Mae dwy ddynes sy’n byw yng ngogledd Cymru wedi trawsnewid eu bywydau trwy ddilyn cwrs Dysgu Cymraeg dwys, ac maen nhw bellach yn gweithio fel tiwtoriaid yn y gymuned leol.

Mi wnaeth Charlotte Roberts, sy’n dod o Wrecsam ond sydd bellach yn byw ar fferm yn Sir Fôn, a Danielle Pritchard, wnaeth symud o Leeds i’r Bala, gwblhau cyrsiau dwys gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – cyn cymhwyso i fod yn diwtoriaid.

Ar ôl cwrdd â’i gŵr, Matthew ym Mhrifysgol Harper Adams, symudodd Charlotte i’r gogledd a chael gwaith fel darlithydd gofal anifeiliaid yng Ngholeg Glynllifon.  Ei dymuniad oedd darlithio yn yr adran amaethyddol, ond roedd angen iddi ddysgu Cymraeg yn gyntaf.  Felly penderfynodd fwrw iddi a chofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg dwys.

Meddai Charlotte:

Roedd pawb yn yr ardal yn siarad Cymraeg, ac felly ro’n i'n awyddus i ddysgu. Dilyn cwrs Dysgu Cymraeg dwys oedd y peth gorau wnes i, dw i mor falch i mi benderfynu mynd amdani achos mae’r Gymraeg wedi newid fy mywyd yn llwyr. Ar ôl cwblhau’r cwrs Dysgu Cymraeg, ges i swydd ddarlithio mewn amaethyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nglynllifon.

Erbyn hyn, mae Charlotte yn gweithio ar y fferm deuluol, ond hefyd yn diwtor Dysgu Cymraeg rhan amser.  Mae hi wedi magu teulu yn y Gymraeg, ac mae’r plant, Thomas yn mynd i Ysgol David Hughes, ac Osian ac Alys yn mynd i Ysgol Parc y Bont.  Mae Charlotte yn mwynhau helpu Thomas gyda’i waith cartref gwyddoniaeth yn Gymraeg, a helpu’r ddau ieuengaf gyda’u gwaith darllen.

Image of Charlotte Pritchard, the tutor mentioned in the story

Symudodd Danielle o Leeds i’r Bala yn 2019, er mwyn byw gyda’i gŵr, Gareth.  Yn ystod y cyfnod clo, penderfynodd gofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg dwys.  Dechreuodd ymarfer trwy gyfarch y postmon gan ddweud ‘Bore da’ a ‘Diolch’, ac mae ei chymdogion wedi ei chefnogi ar hyd y daith a’i hannog i ddefnyddio’r iaith.

Cafodd Danielle ei hysbrydoli gan diwtor arall, wnaeth ddysgu’r iaith fel oedolyn, fel yr eglura:

Mi wnes i benderfynu cwblhau cwrs Dechrau Dysgu y llynedd - sef y cynllun hyfforddi i fod yn diwtor - a dw i’n dysgu dosbarthiadau Cymraeg yn y gymuned leol rwan. Pan welais bod Sarah Hattle, wnaeth arsylwi fy nosbarth ar y cwrs hyfforddi, wedi dysgu Cymraeg, a bellach yn rhannu’r iaith gydag eraill, mi wnaeth hynny fy ysbrydoli. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cwrs Dysgu Cymraeg dwys i ymarfer Cymraeg bob dydd, cymryd rhan mewn digwyddiadau lleol, a mwynhau’r broses.

Mae mwy o wybodaeth am gyrsiau dwys Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin sy’n dechrau fis Medi ar gael isod:

Cwrs Mynediad a Sylfaen | Cwrs | Dysgu Cymraeg (Wyneb-yn-wyneb)

Cwrs Mynediad a Sylfaen | Cwrs | Dysgu Cymraeg (Hunan astudio a dosbarth rhithiol)

Er mwyn dod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg dwys mewn rhan arall o Gymru, dilynwch y ddolen nesaf i ddefnyddio ein Chwilotydd Cyrsiau.