Gwers gyfoes i ddysgwyr i ddathlu barddoniaeth Gymraeg
Mae gwers gyfoes newydd wedi ei chreu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i roi cyfle i ddysgwyr y Gymraeg gael blas ar farddoniaeth.
Ar 4 Hydref, sef dydd cenedlaethol barddoniaeth yng Nghymru, bydd ysgolion, colegau, y cyfryngau ac wrth gwrs, beirdd, yn cynnal digwyddiadau i ddathlu ac i hyrwyddo barddoniaeth.
Dyma’r wers ddiweddaraf mewn cyfres o wersi cyfoes sy’n cael eu paratoi bob blwyddyn gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gyd-fynd gyda’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru ac yn y byd o’n cwmpas.
Bwriad y wers hon yw rhoi cyflwyniad i rai o nodweddion amlycaf byd barddoniaeth yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol, cystadlaethau poblogaidd Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru, stompiau a rôl Bardd Plant Cymru.
Bydd cyfle hefyd i drafod rhai nodweddion ieithyddol sy’n perthyn i farddoniaeth megis odli a chyflythrennu a chael cyflwyniad syml i’r gynghanedd.
Fel rhan o’r wers hon mae Catrin Dafydd, y bardd a’r llenor o Gaerdydd, a enillodd y goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn trafod ei chyfres o gerddi buddugol ar y thema ‘Olion’. Mae’r casgliad yn dathlu Cymreictod Trelluest (Grangetown).
Mae Mererid Hopwood a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 2001 wedi ysgrifennu cerdd yn arbennig ar gyfer ei chynnwys yn yr uned hefyd sy’n sôn am ‘Fy Ardal i’, Mae’n cyfeirio at ei dinas enedigol, sef Caerdydd, ac yn sôn am rai o’i hatgofion am ei phlentyndod yno. Bydd cyfle i’r dysgwyr i wrando, i ddarllen ac i ddysgu geirfa newydd wrth werthfawrogi gwaith beirdd ein gwlad.
Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae’n bwysig iawn bod pob agwedd ar ein diwylliant yn agored i’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg, ac mae barddoniaeth Cymru yn ffordd o ddathlu’r diwylliant hwnnw. Mae’n gyfle hefyd gyda’r wers newydd i ysgogi diddordeb, herio a meithrin datblygiad iaith dysgwyr ar bob cam o fewn y lefel Uwch.”
Rhan o ddathliadau’r diwrnod hefyd fydd Her 100 Cerdd sy’n cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru. Yn yr her, bydd pedwar bardd yn cael eu herio i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Bydd gweithwyr a chyflogwyr yng Nghymru hefyd yn cael eu hannog i gefnogi #diwrnodbarddoniaeth drwy ddod â cherdd i’r gwaith, rhoi cerddi ar y wal, darllen eu hoff gerddi i’w gilydd, a chael cystadleuaeth ysgrifennu limrig.
I weld y wers gyfoes ar ddydd barddoniaeth Cymru, y nodiadau, a’r holl adnoddau sydd ar gael i gydfynd â’r wers, ewch i dysgucymraeg.cymru neu ffoniwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg ar 0300 3234324.