Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgu Cymraeg i gael bod yn un o’r miliwn

Dysgu Cymraeg i gael bod yn un o’r miliwn

Cafodd Simon Gregory, oedd yn gweithio mewn banc cyn ymddeol, ei ysbrydoli i ddechrau dysgu Cymraeg yn 2020 ar ôl iddo glywed am darged Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Doedd dim cysylltiad â Chymru gyda Simon, sy’n byw yn Llundain, ond teimlai yr hoffai ddysgu’r iaith i gefnogi diwylliant unigryw ym Mhrydain.  Mae bellach yn cyfrif dysgu Cymraeg fel ei brif ddiddordeb.

Dechreuodd ddysgu mewn dosbarth ar-lein gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Eglurodd Simon, “Dw i’n gweld yr iaith yn ddiddorol iawn, a dw i wedi dysgu llawer am ddiwylliant a hanes Cymru.

“Gan fy mod i’n byw yn Llundain, dw i ddim yn gweld na chlywed yr iaith yn aml, ond dw i’n gwneud ymdrech i ddod o hyd i gyfleoedd i siarad yr iaith.

“Dw i’n aelod o grŵp sy’n sefydlu cell o Gymdeithas yr Iaith yn Llundain a dw i hefyd yn gwirfoddoli ar brosiect Deiseb Heddwch, yn trawsgrifio enwau a chyfeiriadau y rhai wnaeth lofnodi y ddeiseb yn 1923/1924.

“Dw i’n cael sgwrs wythnosol drwy gynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg gydag un person ym Mhorthcawl (dros WhatsApp) a dysgwr sy’n byw yn fy ardal i (mewn caffi).

“Dw i’n aelod o Gôr Gwalia, côr meibion yn Llundain, ac yn mwynhau darllen llyfrau Cymraeg a gwylio S4C, yn enwedig Pobol y Cwm!  Dw i hefyd yn ymweld â Chymru mor aml â phosib.”

Mae’r tiwtor Dysgu Cymraeg, Tracey Eccott, wedi bod yn dysgu’r iaith i Simon ers amryw o flynyddoedd.  Mae’n dweud ei fod yn bleser ei gael yn y dosbarth, gyda’i frwdfrydedd heintus, a’i fod yn dod â hiwmor a phositifrwydd i'r ystafell ddosbarth rithiol.

“Dw i’n edmygu'r ffordd mae Simon wedi mynd ati'n rhagweithiol i geisio cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol,” meddai Tracey.

“Mae ei barodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd i ymarfer ei Gymraeg, mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb yn Llundain, yn ystod amryw gyrsiau preswyl yng Nghymru a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein, yn allweddol i'w lwyddiant fel siaradwr newydd.”

Mae dosbarthiadau Dysgu Cymraeg ar gael trwy’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Am fwy o wybodaeth, ewch i dysgucymraeg.cymru.