Dysgu Cymraeg, peintio a... beicio!
Mae Lara Davies yn wreiddiol o Faesteg, ond mae hi bellach yn byw yn Llundain.
Symudodd i Lundain i wneud gradd meistr mewn Peintio yn y Coleg Celf Brenhinol ac erbyn hyn mae’n artist ac yn gweithio’n llawn amser i Amgueddfa Cymru. Mae Lara’n dilyn cwrs Uwch 2 gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Sir Benfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cawson ni air â Lara i glywed mwy o’i hanes.
Ers pryd wyt ti’n dysgu Cymraeg?
Gwnes i TGAU Cymraeg amser maith yn ôl, ond pan wnes i ddechrau gweithio i Amgueddfa Cymru, dechreuais i ddysgu Cymraeg eto. Felly, dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers chwe blynedd, mwy neu lai.
Beth neu pwy wnaeth dy annog i ddechrau dysgu?
Y prif reswm dw i wedi ail-ddechrau dysgu Cymraeg ydy am fod fy nithoedd a nai yn mynd i ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd, a hoffwn i siarad â nhw yn Gymraeg.
Rwyt ti'n gweithio i Amgueddfa Cymru - beth yw dy swydd?
Dw i’n gweithio fel Cydlynydd Ymchwil i Adran Ymchwil yr amgueddfa, ac ers y pandemig, dw i’n gweithio o adre. Mae fy swydd yn ddiddorol iawn, achos dw i’n helpu rhedeg digwyddiadau fel symposiwm ymchwil flynyddol. Mae hefyd yn gweithio’n dda iawn gyda fy ngwaith fel artist, achos dw i’n gallu gweithio o fy stiwdio yn Hackney Wick yn Llundain.
Rwyt ti hefyd yn artist - alli di ddisgrifio dy waith i ni?
Wel, yn 2023 gwnes i reidio beic o Lands End yng Nghernyw, i John O’Groats yn Yr Alban. Ro’n i’n dilyn ôl-troed fy hen-fodryb wnaeth y daith ar ei phen ei hun ar gefn march yn 1949, pan oedd hi’n ddim ond 24 oed.
Ar ôl gwneud y daith, ro’n i eisiau cadw’r atgofion yn fyw, felly gwnes i beintio lluniau i gofio am y daith. Lluniau o’r dirwedd - lle'r oedd arwyneb y ganfas wedi colli lliw, fel hen lun neu hen ffilm.
Mae fy lluniau fel gwaddol o’r daith - maen nhw'n cynnwys yr emosiynau a'r hud a deimlais i ar y pryd. Dw i’n parhau i beintio lluniau ar ôl anturiaethau beicio, a nawr, mae beicio a pheintio yn mynd law yn llaw.
Wnei di sôn mwy am y sialens beicio 'Chasing the Sun'?
Llynedd, ro’n i ar y trên yn ôl i Lundain ar ôl gwneud sialens feicio ‘Dragon Ride’ ym Mannau Brycheiniog - a gofynnodd rywun i mi os oeddwn i wedi clywed am ‘Chase the Sun.’ Gwnes i ychydig o ymchwil, ac roedd yn swnio’n anhygoel! 200 milltir o ddwyrain Prydain i’r gorllewin, gan ddechrau pan oedd yr haul yn gwawrio, a gorffen cyn i’r haul fachlud.
Wedyn, gwelais i ffilm 'Chase the Sun' yn y sinema ac ar ôl hynny, ro’n i’n gwybod bod yn rhaid i mi ei gwneud.
Ces i amser gwych a gwnes i ffrind newydd – gwnaethon ni feicio gyda’n gilydd yr holl ffordd. Dechreuon ni am 4.30am, a gorffennon ni yn Weston-Super-Mare am 8.45pm - 45 munud cyn iddi fachlud.
Gwnaethon ni’n dda iawn a bod yn onest! Roedd fy nghoesau’n teimlo’n wych, ond ces i saib o dri diwrnod o fy meic ar ôl gorffen!
Beth wyt ti'n hoffi fwyaf am siarad Cymraeg?
Cwpl o fisoedd yn ôl, roedd artist oedd yn siarad Cymraeg yn arddangos ei waith yn Llundain, felly siaradon ni yn Gymraeg gyda'n gilydd, ac roedd yn deimlad da.
Hefyd, pan o'n i yn y coleg celf, roedd pobl o bedwar ban byd yno, ac i'r rhan fwyaf o bobl, roedd Saesneg yn ail iaith.
Teimlais i mor falch fy mod i hefyd yn gallu siarad iaith fy ngwlad, yn ogystal â Saesneg.
Mae gwaith Lara i’w weld yma: Lara Davies | We watched the day grow older – Canopy Collections