Dysgu Cymraeg yn helpu Alisa i ail-gysylltu gyda’i gwreiddiau
Mae gor-or-wyres James James, y cerddor o Bontypridd a wnaeth gyfansoddi y dôn ar gyfer yr anthem genedlaethol, Hen Wlad Fy Nhadau, wedi sôn cymaint y mae hi’n mwynhau dysgu Cymraeg fel oedolyn.
Mae Alisa Baker, a gafodd ei geni yng Nghaerdydd ac a fynychodd ysgolion cyfrwng Saesneg yn y Rhondda, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 18 mis. Mae Alisa yn dilyn cwrs Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Llwynypia, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Er bod Alisa yn cofio ychydig o Gymraeg ers ei chyfnod yn yr ysgol, a bod ei mamgu wedi siarad Cymraeg â hi pan oedd yn iau, dywedodd ei bod eisiau dysgu’r iaith yn iawn fel teyrnged i’w chyndeidiau enwog.
“Mae fy nghyndeidiau wedi chwarae rhan flaenllaw yn fy mhenderfyniad i fynd ati i ddysgu Cymraeg,” esboniodd.
“Fy mamgu ar ochr fy nhad yw wyres a gor-wyres James James ac Evan James, a aeth ati i ysgrifennu’r anthem genedlaethol. Fe’i hysgrifennwyd ganddynt ar gyfer pobl Cymru, a rhoddwyd hi i’r bobl yn rhodd. Mae dysgu Cymraeg yn fy helpu i ymgysylltu â’r gwreiddiau teuluol yna.
“Yr oedd Cymraeg yn cael ei siarad ar ochr fy mam hefyd, a bellach dw i’n byw yn hen gartref fy hen hen famgu a thadcu yn Nhonyrefail. Mae’n deimlad da pan dw i’n siarad Cymraeg yn y cartref, gan mai Cymraeg oedd yr unig iaith a gâi ei siarad yno ar un adeg.”
Mae Alisa, sy’n fam i dri o blant, yn gobeithio gweithio fel cynorthwy-wraig nyrsio, ac mae’n credu y bydd y Gymraeg o ddefnydd iddi yn ei gyrfa newydd.
“Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau dysgu’r Gymraeg yw i fynd amdani,” ychwanega. “Mae’n lot o hwyl, ac yn gyfle i gyfarfod â ffrindiau newydd, hyfryd. Mae’r tiwtoriaid yn wych hefyd, ac rydych yn dysgu mewn ffordd anffurfiol a diddorol – ‘dyw e ddim fel bod yn yr ysgol o gwbl!”
Meddai Efa Gruffudd Jones, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n gyfrifol am gyrsiau Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru:
“Yr ydym yn gwybod fod gan bobl nifer o resymau da dros fynd ati i ddysgu’r Gymraeg, boed hynny i gefnogi plant mewn addysg Gymraeg neu i ehangu dewisiadau gyrfa. Mae hwn yn rhywbeth arbennig, er hynny – dysgu Cymraeg gan fod eich cyndeidiau wedi cyfansoddi’r anthem genedlaethol. Yr ydym yn dymuno lwc dda i Alisa wrth iddi barhau i ddysgu’r iaith.”
Mae’r Ganolfan yn cydweithio gyda rhwydwaith o ddarparwyr i ddarparu amrywiaeth o gyrsiau ar draws Cymru, o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl – mae mwy o wybodaeth ar gael yma