Gwersi dyddiol byw a mentrau eraill yn helpu
oedolion i ddysgu Cymraeg yn y cartref
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ymateb i heriau cyfyngiadau symud yr argyfwng coronafeirws gyda gwahanol fentrau sy’n galluogi oedolion i barhau i ddysgu ac ymarfer y Gymraeg yn eu cartrefi.
Mae gwersi Cymraeg dyddiol, wedi’u ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook y Ganolfan, cyrsiau ar-lein, adnoddau dysgu digidol a dosbarthiadau dysgu o bell ymhlith y datblygiadau i gefnogi dysgwyr y Ganolfan, oddeutu 13,000 o oedolion ledled Cymru.
Mae’r gwersi dyddiol 10-munud o hyd, sy’n cael eu ffrydio’n fyw o ddydd Llun i ddydd Gwener am 3pm ar dudalen Facebook y Ganolfan, yn cyflwyno geirfa a phatrymau syml a chyngor ar ynganu. Mae’r gwersi wedi ennyn ymateb positif, gyda dysgwyr o Dubai a’r Ariannin yn ymuno â dysgwyr yng Nghymru i’w gwylio.
Mae cyrsiau cymunedol, a ddechreuodd fis Medi diwethaf a mis Ionawr eleni, yn parhau, gyda thiwtoriaid Cymraeg yn defnyddio llwyfannau cynadledda o bell, megis Zoom a Skype, i ddysgu eu myfyrwyr.
Mae clipiau fideo ar-lein yn cael eu cyflwyno, i gyd-fynd â’r 1,500 o adnoddau fideo, sain a rhyngweithiol sy’n barod ar gael ar wefan y Ganolfan, dysgucymraeg.cymru
Mae cyfres o gyrsiau byrion ar-lein, sy’n cyflwyno Cymraeg llafar, hefyd ar gael, ac mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno sesiynau ‘blasu’ wythnosol ar gyfer rhieni plant ifanc, a fydd hefyd yn cael eu ffrydio’n fyw ar Facebook.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Ers cymryd cyfrifoldeb dros y sector Dysgu Cymraeg yn 2016, mae datblygu adnoddau dysgu digidol wedi bod yn flaenoriaeth, er mwyn rhoi hyblygrwydd a dewis i bobl ddysgu’r Gymraeg. Gyda seiliau cadarn mewn lle, mae wedi bod yn bosib cyflwyno adnoddau newydd yn gyflym er mwyn rhoi digon o ddewis i oedolion ddysgu ac ymarfer y Gymraeg adref - p’un ai bod nhw’n dysgu gyda ni’n barod neu’n dysgu o’r newydd.
“Ry’n ni’n falch iawn bod ein cyrsiau cymunedol wedi gallu parhau, fwy neu lai yn yr un ffordd, diolch i dechnoleg gynadledda o bell, a hoffwn dalu teyrnged i’n darparwyr cwrs a’n tiwtoriaid, sy wedi addasu’n gyflym i ddefnyddio’r dechnoleg yma.
“Yn anad dim, ry’n ni’n falch iawn ein bod ni’n gallu cefnogi ein dysgwyr – gyda’u dysgu, a hefyd o safbwynt lles, gan gynnig trefn, normalrwydd a chefnogaeth gymdeithasol o dan amgylchiadau eithriadol.”
Diwedd
Nodiadau i’r golygydd
- Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i chartrefu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg i oedolion.
- Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 11 darparwr cwrs, sy’n cynnal cyrsiau ar ei rhan ledled Cymru.
- Yn 2018-2019, fe wnaeth 13,260dysgwr unigryw ddilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg, cynnydd o 5% o gymharu â 2017-2018. Mae mwy o wybodaeth am ddata’r Ganolfan ar gael yma.