Mae Kate Jackson, sy’n dod o Newport, Sir Amwythig, wedi dysgu’r Gymraeg ac yn mwynhau defnyddio’r iaith bob dydd yn ei gwaith yn Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Dechreuodd Kate ddysgu’r Gymraeg pan dderbyniodd swydd Prif Swyddog Cyllid Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn 2013. Roedd yn awyddus i ddysgu er mwyn defnyddio’r iaith yn y gweithle, ac roedd wedi arfer clywed ei thad yng nghyfraith, Gwyn Jackson, oedd yn Heddwas gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn siarad Cymraeg.
Roedd Kate eisoes yn ymddiddori mewn ieithoedd wedi tair blynedd yn byw yn Yr Almaen gyda’i gŵr, Alun, a’i mab, Thomas. Treuliodd gyfnod yn gweithio gyda chwmni dylunio awyrofod ym Munich, a llwyddo i ddysgu Almaeneg yn rhugl.
Meddai Kate;
“Ges i Lefel O mewn Almaeneg, ond mi wnes i ddysgu’r iaith o ddifri pan yn byw yn Yr Almaen. Ro’n i’n gwybod pa mor bwysig oedd cyfathrebu gyda phobl yn eu hiaith gyntaf, felly ro’n i’n benderfynol o ddysgu’r iaith.’’
Pan gychwynnodd Kate y swydd felly, aeth ati i ddysgu Cymraeg o’r cychwyn cyntaf, fel yr eglura;
‘‘Yn ystod fy wythnos gyntaf yn y swyddfa, mi wnes i ddysgu’r geiriau pwysicaf – paned o de, efo llefrith, dim siwgr, os gwelwch yn dda! Mae tri chwarter staff y swyddfa yn siarad Cymraeg, ac maen nhw i gyd wedi fy annog i siarad Cymraeg. Erbyn hyn, dw i’n teimlo’n hyderus wrth siarad yr iaith yn y gwaith.’’
Mi wnaeth Kate gofrestru ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Cambria ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mi wnaeth hi hefyd fynychu cyrsiau preswyl yn Nant Gwrtheyrn, a gwrando ar CDs Cymraeg ar ei thaith rhwng ei chartref yn Newport, a’r swyddfa ym Mae Colwyn. Mae hi hefyd yn mwynhau darllen cyfresi Cymraeg fel Amdani a Stori Sydyn, ac yn derbyn cylchgrawn Lingo Newydd drwy’r post.
Dywedodd Manon Williams, tiwtor Dysgu Cymraeg Kate;
“Mae Kate yn enghraifft wych o rywun sy’n parhau i ddysgu a datblygu. Mae hi’n dangos y gall unrhyw un gyrraedd lefel uchel drwy ymarfer a dyfal barhad. Mae ei stori’n ysbrydoliaeth i bawb sy’n gweithio i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.’’
Mae Kate bellach yn annog cydweithwyr i ddysgu’r iaith;
“Dw i’n caru dysgu Cymraeg. Pan mae pobl eraill yn dweud eu bod nhw isio dysgu, dw i’n dweud wrthyn nhw – trïwch, a gwnewch dipyn bach bob dydd. Dyna’r gyfrinach!
‘‘Hoffwn ddiolch i bawb sy wedi fy nghefnogi ar hyd y blynyddoedd. Mae fy nyled yn fawr i fy nghydweithwyr, Angharad a Winston, a fy nhiwtoriaid, Irfon a Manon.
‘‘Buaswn wrth fy modd yn dweud diolch wrth fy nhad yng nghyfraith – a chael cyfle i siarad Cymraeg ag o. Bu farw cyn i mi ddechrau dysgu, ond dw i’n siŵr y byddai’n falch iawn ohonof i heddiw.’’
Yn y llun mae Kate a'i gŵr, Alun yn ogystal â rhieni yng nghyfraith Kate, Gwyn a Sue Jackson.