Ar ddechrau tymor academaidd newydd, a dysgwyr Cymraeg ym mhobman yn paratoi i ymuno â’u dosbarthiadau rhithiol, mae Janette Ratcliffe, sy’n byw yng Nghaerlŷr gyda’i gŵr a’u merch, yn edrych ymlaen at ail-gydio yn y dysgu.
Mae gan Janette, sy’n gweithio fel archifydd mewn ysgol, wreiddiau Cymreig a chafodd ei geni yng Nghaerdydd.
Mae Janette, sydd ar fin dechrau cwrs mewn dosbarth rhithiol sy’n cael ei gynnal gan Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (Prifysgol Abertawe) ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn gweld y cyfle i ddysgu Cymraeg fel ffordd o ail-gysylltu â’i gwreiddiau. Eglura: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes teulu. Doedd teulu fy nhad ddim yn medru’r Gymraeg, ac er ei fod yn byw yng Nghymru chafodd e ddim y cyfle i ddysgu pan oedd e’n blentyn. Y neges yn yr ysgol oedd fod pawb yn medru’r Saesneg beth bynnag, ac nad oedd pwynt dysgu iaith arall.”
Treuliodd Janette gryn dipyn o’i phlentyndod yn teithio gan fod ei thad yn gweithio i’r Awyrlu Brenhinol. Ymgartrefodd y teulu ger Manceinion ond roedd hi’n mwynhau cael ymweld â Chymru a dod ar wyliau yma pan oedd yn blentyn.
“Mae gen i nifer o atgofion hapus iawn o Gymru, a dw i’n cofio treulio amser gyda Mam-gu a Dad-cu, a fy hen fam-gu hefyd pan oeddwn i’n dod ar wyliau i Gaerdydd. Dw i wedi bod eisiau dysgu Cymraeg ers blynyddoedd gan fy mod yn falch iawn o’m hunaniaeth. Ro’n i’n arfer esgus siarad Cymraeg gyda fy chwiorydd (a gafodd eu geni yn Lloegr) a mwynhau dweud wrthyn nhw mod i wedi cael fy ngeni yng Nghymru ac yn medru deall Cymraeg!”
Yn ystod y cyfnod clo, pan nad oedd yn medru gweithio, aeth Janette ati i ddechrau dysgu Cymraeg ar Duolingo. Penderfynodd fynychu un o’r cyrsiau Dysgu Cymraeg cyfunol newydd ar gyfer dechreuwyr, oedd yn cyfuno dysgu gyda thiwtor mewn dosbarth rhithiol gydag unedau hunan-astudio ar-lein. Cafodd foddhad mawr, ac mae’n edrych ymlaen at barhau.
“O ddiwedd mis Medi ymlaen mi fydda i’n parhau gyda’r cwrs bob nos Fercher gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Mae’r ffordd yma o ddysgu yn berffaith i fi. Dw i’n medru siarad gyda’r tiwtor a’r dysgwyr eraill yn y dosbarth, ac yn cael cyfle hefyd i fwynhau gweithgareddau o adref yn fy amser fy hun. Fyddwn i byth wedi medru mynd ati i ddysgu’r iaith heb y cyfleon newydd yma. Er fy mod ychydig yn nerfus, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr her.”
Mae gan aelodau ei dosbarth Cymraeg grŵp WhatsApp er mwyn medru ymarfer gyda’i gilydd, ac mae hi’n mwynhau bob cyfle posib i ddefnyddio’r iaith gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr eraill. Mae’n gobeithio rhyw ddydd y daw cyfle i symud yn ôl Gymru i fyw, er bod rhaid bodloni ar ddod ar wyliau yn unig ar hyn o bryd.
Dwi’n credu bod iaith yn fwy na geiriau yn unig – mae’n eich galluogi chi i ddeall a gwerthfawrogi hanes a diwylliant y bobl sy’n siarad yr iaith honno. Mae dysgu iaith yn ffordd werthfawr o ymgysylltu â’r bobl, ac â’r wlad lle caiff yr iaith ei siarad – mae’n werth ei hamddiffyn
Janette Ratcliffe