Effaith gadarnhaol cynlluniau’r Ganolfan ar gryfhau sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn falch iawn o adroddiad diweddaraf Estyn, sy’n canmol ei chynlluniau hyblyg a chynhwysfawr ar gyfer gweithleoedd ledled y wlad.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffordd mae’r Ganolfan yn cydweithio â chyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid i deilwra cynlluniau er mwyn ateb gofynion amrywiol, ac ers 2018, mae dros 30,000 o weithwyr a 2,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan.
Cynlluniau hyblyg
Mae’r cynlluniau yn cynnwys cyrsiau dysgu dwys, cefnogaeth codi hyder a modiwlau hunan-astudio ar-lein, ac mae’r Ganolfan yn arwain prosiectau penodol ar gyfer Iechyd a Gofal ac Awdurdodau Lleol.
Mae’r ddarpariaeth hefyd ar gael mewn sefydliadau adnabyddus fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam a chlwb rygbi’r Gweilch, gan normaleiddio defnydd o’r iaith mewn meysydd sy’n dylanwadu ar fywyd pob dydd.
Trawsnewid siaradwyr di-hyder
Un o’r nodweddion mwyaf llwyddiannus, yn ôl Estyn, yw’r ffordd mae’r Ganolfan yn cefnogi siaradwyr di-hyder a dysgwyr ar lefelau Canolradd ac uwch, gan eu troi’n siaradwyr gweithredol mewn cyfnod cymharol fyr. Mae tiwtoriaid medrus, sy’n gweithio’n uniongyrchol o fewn sectorau, yn gallu ymateb yn greadigol i anghenion y gweithlu a sbarduno newid go iawn yn y defnydd o’r Gymraeg.
Edrych ymlaen
Mae Estyn yn argymell bod y Ganolfan yn parhau i gydweithio’n agos â darparwyr a chyflogwyr, gan deilwra cyrsiau ar gyfer anghenion galwedigaethol.
I ddarllen adroddiad Estyn, dilynwch y ddolen nesaf: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol/The National Centre for Learning Welsh - Estyn