Mae llwyddiant ar raglen boblogaidd S4C, Y Llais, wedi ysbrydoli Emma Winter o Droed-y-rhiw, Merthyr Tudful, i ysgrifennu, cyfansoddi a pherfformio yn y Gymraeg.
Cyrhaeddodd Emma, athrawes ysgol gynradd sy’n dysgu’r iaith, rownd gyn-derfynol y sioe dalent, gyda’r gantores a chyfansoddwraig, Bronwen Lewis yn ei mentora. Mae ei phrofiad ar y rhaglen wedi rhoi hwb a hyder iddi ddal ati i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg.
Mae Emma yn dilyn gwersi wythnosol gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael eu trefnu gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae Emma, sy’n athrawes yn Ysgol Nant-y-Parc, Caerffili, hefyd wedi lleihau ei horiau dysgu er mwyn canolbwyntio ar ganu a chyfansoddi. Mae’n ymfalchïo yn ei swydd ran-amser fel athrawes ac yn parhau i fwynhau dysgu a chanu gyda’r disgyblion.
Mae Emma wedi dechrau ysgrifennu caneuon Cymraeg ac wedi rhyddhau ei sengl gyntaf erioed ar 30 Hydref, flwyddyn union ers ei chlyweliad cudd ar Y Llais. Mae ganddi nifer o gigs a chyngherddau ar y gweill ar draws Cymru dros y flwyddyn nesaf. Bydd hi’n perfformio yn Ffair Nadolig Saundersfoot ar 5 Rhagfyr, yn y Mwmbwls ar Ddydd Gŵyl Dewi 2026, ac mewn priodasau.
Bydd Emma yn cynnal ei chyngerdd unigol gyntaf erioed yn Theatr Soar, Merthyr Tudful ar 18 Gorffennaf 2026.
Eglura Emma: “Dw i’n dwlu ar fy ngwaith yn yr ysgol a rhannu’r iaith gyda’r disgyblion.
“Roedd fy mhrofiad ar Y Llais yn arbennig iawn. Mae wedi newid fy mywyd. Dw i wrth fy modd yn dysgu’r iaith, ac mae bod ar y rhaglen wedi rhoi’r hyder i fi berfformio’n Gymraeg, a gwireddu fy mreuddwydion. Dw i eisiau ysbrydoli eraill i ddysgu’r iaith.”