Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Estyn yn dweud bod cynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn un o gonglfeini cynllunio ieithyddol yn y gweithle

Estyn yn dweud bod cynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg  yn un o gonglfeini cynllunio ieithyddol yn y gweithle

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (10 Medi, 2025), mae Estyn yn canmol cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol am yr effaith gadarnhaol mae’n ei gael ar gryfhau sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd ledled Cymru.

Yn yr adroddiad, mae Estyn yn cydnabod gweledigaeth arloesol arweinwyr y Ganolfan wrth ddatblygu’r cynllun, ac mae’n tynnu sylw at y ffordd effeithiol y maent yn cydweithio â chyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid i’w ehangu.

Hyd yma, mae 2,000 o gyflogwyr a 30,000 o weithwyr wedi cymryd rhan yn y cynllun, a gyflwynwyd yn 2018.  Mae darpariaeth gynhwysfawr ar gael a rhaglenni ar gyfer sectorau a chyflogwyr penodol, gan gynnwys Iechyd a Gofal, Awdurdodau Lleol, a Chwaraeon.

Yn ôl Estyn, mae’r galw cynyddol am ehangu’r ddarpariaeth yn dangos yn glir bod Cymraeg Gwaith yn un o gonglfeini mentrau cynllunio ieithyddol yn y gweithle, ac yn ganolog i’r ymdrechion i ymestyn a normaleiddio defnydd o’r Gymraeg mewn sectorau sy’n greiddiol i ddyfodol yr iaith.

Mae Estyn yn adrodd mai un o nodweddion mwyaf llwyddiannus y cynllun yw’r ffordd mae’n targedu siaradwyr di hyder a dysgwyr lefel Canolradd ac uwch.  Mae tiwtoriaid medrus yn llwyddo i’w troi’n siaradwyr gweithredol mewn cyfnod cymharol fyr.

Mae darpariaeth nodedig hefyd ar gael mewn sefydliadau adnabyddus fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Clwb Pêl-droed Wrecsam a’r Gweilch.  Targedir y sefydliadau hyn fel ffordd o integreiddio a normaleiddio defnydd o’r iaith mewn sector sy’n cyffwrdd â bywydau cynifer o bobl o bob oedran.

Mae Estyn yn nodi bod y cysylltiad rhwng yr addysgu a dysgu a’r elfen gynllunio ieithyddol ar ei orau pan fo tiwtoriaid llawn amser yn gweithio o fewn sectorau penodol, ac yn gallu adnabod anghenion addysgol a galwedigaethol, a gweithio’n greadigol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.  Drwy wneud hyn maent yn dylanwadu ar agweddau ac arferion ieithyddol y sefydliadau hynny, ac yn y pendraw at wasanaethau gwell i siaradwyr Cymraeg eu hiaith

I’r dyfodol, mae Estyn yn argymell bod y Ganolfan yn parhau i gydweithio â’i darparwyr i sicrhau bod cyrsiau’n cael eu teilwra’n briodol, a’i bod yn gweithio â darparwyr a chyflogwyr i gynllunio datblygiad ieithyddol staff yn fwriadus fel bod cefnogaeth ymarferol iddynt a chyfleoedd ystyrlon i ddefnyddio eu Cymraeg.  Mae Estyn hefyd yn argymell bod y Ganolfan yn ymchwilio ar y cyd â Llywodraeth Cymru i ddatblygu model darparu a chyllido sy’n cefnogi cynlluniau hir-dymor, ac yn parhau i ddatblygu dulliau o fesur effaith y ddarpariaeth ar newid ymddygiad iaith unigolion.

Meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: “Mae’n wych i weld adroddiad cadarnhaol arall gan Estyn ar waith y Ganolfan, y tro hwn yn canolbwyntio ar y cynllun Cymraeg Gwaith.  Mae’n dangos bod gwaith y Ganolfan yn cynyddu’r cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle ac yn gwella sgiliau gweithwyr i ddarparu gwasanaethau Cymraeg.

“Mae ein buddsoddiad yn y Ganolfan yn adlewyrchu ein hymrwymiad at ddatblygu sgiliau Cymraeg ein gweithlu a chynyddu’r nifer o bobl sy’n dysgu a defnyddio’r iaith.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i barhau’r gwaith pwysig o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn ein gweithleoedd a’n cymunedau.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dan ni’n falch iawn o’r adroddiad hwn sy’n cydnabod rôl allweddol cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan, wrth sicrhau gweithluoedd sy’n gallu defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth gynyddol o sectorau ledled Cymru.

“Mae’r Ganolfan yn arbenigo mewn dysgu a chaffael iaith, ac un o’i blaenoriaethau strategol yw creu cynlluniau ar gyfer datblygu defnydd o’r Gymraeg ymhlith gweithluoedd.  Mae’n gweithio’n arloesol ac yn greadigol i gyflwyno modelau dysgu amrywiol a hyblyg, gan gydweithio’n agos â chyflogwyr a sectorau. 

“Ein nod yw datblygu mwy fyth o bartneriaethau strategol hirdymor, fydd yn creu newid parhaol ac yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, gan gyfrannu at nod Cymraeg 2050.”