![Eve Myles yn falch o fedru defnyddio'r Gymraeg yn y gyfres newydd o 'Un Bore Mercher'.](/media/10281/rsz_eve_myles.jpg?anchor=center&mode=crop&width=780&height=400&rnd=132518093790000000)
Wrth inni gyrraedd hanner ffordd trwy’r gyfres olaf erioed o Un Bore Mercher, mae'r gyfreithwraig Faith Howells, a bortreadir gan yr actores Eve Myles, yn teimlo'r pwysau.
Gan fyfyrio ar y tair cyfres, meddai Eve; “Mae Un Bore Mercher wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd. Cymaint o amseroedd da, cymaint o amseroedd brawychus, ond ar y cyfan profiad gwefreiddiol o'r dechrau i'r diwedd.
“Rwy’n credu bod neges S4C trwy fy nghastio i i’r rôl hon mor bwerus. Os ydych chi'n meddwl yn Gymraeg, neu yn dysgu Cymraeg, rydych chi'n cadw'r iaith hardd hon yn fyw. Ry’n ni gyd yn dysgu o gamgymeriadau, felly mae angen eu croesawu a bwrw ymlaen.
“Rwy’n falch o’r siwrnai es i arni ac yn ddiolchgar am y caredigrwydd a’r anogaeth a gefais gan y rhai o fy nghwmpas bob dydd. Bydd Faith yn rhan ohonof am byth, ac mi fydd gen i ffydd bob amser.”
Cofiwch wylio 'Un Bore Mercher' ar S4C, bob nos Sul am 9yh.
Lluniau: S4C / Vox Pictures
![#](/media/10279/rsz_eve_myles_1.jpg)
![#](/media/10280/rsz_eve_myles_2.jpg)