Gostyngiad 50% i ddechreuwyr
Mae gostyngiad o 50% ar gyrsiau Cymraeg i ddechreuwyr sy’n dechrau ym mis Medi.
Mae’r gostyngiad yn golygu y bydd cyrsiau yn £45 yn unig.
Mae’r cyrsiau ar gael mewn dosbarth rhithiol – mae hyn yn golygu dysgu gyda thiwtor a myfyrwyr gan ddefnyddio llwyfannau digidol megis Zoom neu Teams ar gyfrifiadur, e-lechen neu ffôn.
Mae rhai cyrsiau mewn dosbarth ar gael.